Lanisad Gwobrau C&B Cymru 2024
Mae Gwobrau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru yn bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector preifat a’r celfyddydau.
Bydd 29ain Gwobrau C&B Cymru yn cael eu lansio ar nos Iau 25 Ionawr 2024 yn Cabaret, Canolfan Mileniwm Cymru, pan gyhoeddir manylion y seremoni tei du blaenllaw.
Cynhelir Raffl Profiadau Cymreig yn y digwyddiad, gyda’r elw yn cefnogi prosiectau sy’n ymgysylltu cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau. Mae manylion y gwobrau sydd ar gael i’w gweld yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tocynnau, anfonwch e-bost at contactus@aandbcymru.org.uk am ragor o wybodaeth.
Yn dilyn y Lansiad, bydd enwebiadau’n agor a bydd y gwaith o chwilio am gydweithrediadau creadigol gorau Cymru yn dechrau. Bydd manylion llawn seremoni 2024 yn cael eu postio erbyn 26 Ionawr fan bellaf.
Gellir dod o hyd i Enillwyr a Rownd Derfynol 2023 yma.