
Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru 2025
Cynhelir 30ain Seremoni a Chinio Gwobrau C&B Cymru yn ICC Cymru ddydd Iau 19 Mehefin 2025.
Mae 19 o fusnesau a’u partneriaid celfyddydol wedi ei gwneud hi i’r rhestr fer Gwobrau C&B Cymru 2025. Mae’r seremoni, sydd bellach yn ei 30ain blwyddyn, yn cydnabod rhagoriaeth mewn partneriaethau creadigol rhwng y ddau sector.
Mae cwmnïau o bob maint, wedi’u lleoli ar draws Cymru gyfan, yn cystadlu i ennill y gwobrau mawreddog. O Cymdeithasau Tai i Cwmnïau Cyfreithiol, mae’r rhestr fer yn cynrychioli’r ffyrdd pellgyrhaeddol niferus y mae busnesau ledled Cymru yn gweithio gyda’r celfyddydau i gyflawni nodau diriaethol.
Mae’r rhestr fer gyflawn ar gael isod.
Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn cinio tei du a’r seremoni a gynhelir yn ICC Cymru ddydd Iau 19 Mehefin, pan fydd enillwyr Busnes y Flwyddyn, Gwobr Robert Maskrey am Ddyngarwch y Celfyddydau, Gwobr Celfyddydau Hodge Foundation a Gwobr Gelfyddydau Nicola Heywood Thomas hefyd yn cael eu cyhoeddi.
Am ragor o wybodaeth ac i prynnu ticedi, anfonwch e-bost at contactus@aandbcymru.org.uk neu ffoniwch 029 2030 3023.
Mae Gwobrau C&B Cymru yn bosibl gan amrywiaeth o bartneriaid allweddol C&B Cymru. Mae’r digwyddiad blaenllaw yn cael ei noddi am y tro cyntaf gan werthwyr tai annibynnol hynaf Caerdydd, Hern & Crabtree, sy’n arwain rhestr drawiadol o gefnogwyr.
Y partneriaid categori yn 2025 yw Bluestone Wales, Cartrefi Conwy, Grant Stephens Family Law, Sony UK Technology Centre, The Waterloo Foundation a Wales & West Utilities.
Mae C&B Cymru hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid digwyddiadau i sicrhau llwyddiant y noson. Y rhain yw Noddwr Adloniant, Prifysgol De Cymru, Partner Cyfryngau Orchard, Partner Dylunio Ubiquity, Partner Gwestai Park Plaza Cardiff, Partners Trafnidiaeth FlightLink Wales ac Intercity Removals, yn ogystal â Phartneriaid Diodydd Barti, Penderyn Distillery a Ty Nant.
Gwobr Cynghorydd y Flwyddyn, noddir gan Grant Stephens Family Law
Yn y Rownd Derfynol: Giovanni Basiletti, Burges Salmon LLP a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Jonathan Chitty, Port of Milford Haven a SPAN Arts
Yn y Rownd Derfynol: Sian Humpherson, Snowdonia Hospitality & Leisure a Cywaith Dawns
Yn y Rownd Derfynol: Yeota Imam-Rashid, Ymgynghorydd Llawrydd a Theatr na nÓg
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned, noddir gan Wales & West Utilities
Yn y Rownd Derfynol: Bad Wolf a The Other Room Theatre
Yn y Rownd Derfynol: Pendine Park Care Organisation a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Port of Milford Haven a Theatr Torch
Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth, noddir gan Sony
Yn y Rownd Derfynol: First Choice Housing Association a Gig Buddies Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Grant Stephens Family Law a Hijinx
Yn y Rownd Derfynol: The Queer Emporium a Menter Caerffili
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr
Yn y Rownd Derfynol: Association of Directors of Social Services Cymru a Hijinx
Yn y Rownd Derfynol: Cloth Cat a Cardiff Animation Festival
Yn y Rownd Derfynol: Grant Stephens Family Law ac Act Now Creative Training
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan Bluestone Wales a The Waterloo Foundation
Yn y Rownd Derfynol: Bute Energy a Llenyddiaeth Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Cartrefi Conwy a Benjamin C Dearnley
Yn y Rownd Derfynol: Linc Cymru a Tanio
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd, noddir gan Cartrefi Conwy
Yn y Rownd Derfynol: Canolfan Gofalwyr Abertawe a Cerebra a Grand Ambition
Yn y Rownd Derfynol: Rubicon Facilities Management Ltd a Rubicon Dance
Yn y Rownd Derfynol: RWE Renewables Swindon a Cywaith Dawns
Daw Beirniaid 2025 o amrywiaeth o sectorau ac mae ganddynt arbenigedd mewn ffurfiau celf ymarferol, nawdd a nodau’r sector preifat.
Yr unigolion a gymerodd y dasg sylweddol o feirniadu categorïau’r partneriaethau busnes yw’r Actor a Chynhyrchydd Rakie Ayola a enillodd BAFTA; Cyfarwyddwr Cwmni Hern & Crabtree, Mike Baillie; Seicolegydd Busnes a Chyfarwyddwr Bowen Hopkins, Lorraine Hopkins a Giles McNamara, Cyfarwyddwr Cyllid Bluestone Cymru.
Cafodd Cynghorydd y Flwyddyn ei beirniadu gan dri chefnogwr allweddol o Raglenni Datblygiad Proffesiynol C&B Cymru. Maent yn Gyfarwyddwr Data a Gweithrediadau yn Go.Compare, Hoodi Ansari; Cyn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, y Mezzo Soprano Ann Atkinson a Grant Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Grant Stephens Family Law.
Bydd enillwyr Gwobrau 2025 unwaith eto yn derbyn tlysau a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seremoni. Byddant yn cael eu dylunio a’u gwneud gan y gof, yr artist gosodwaith a’r cerflunydd Angharad Pearce Jones o Orllewin Cymru. Bydd yn defnyddio’r ddalen olaf erioed o ddur Cymreig crai o ffwrnais chwyth Tata Steel ym Mhort Talbot i greu’r darnau unigryw. Byddant yn dathlu symlrwydd y plât dur, tra’n cynrychioli hadau newid, twf menter werdd a’r celfyddydau creadigol.
Mae tocynnau ar gyfer Raffl Profiadau Cymreig Gorau nawr ar werth. Mae tocynnau’n costio £5 a bydd yr elw yn ariannu prosiectau sy’n ymgysylltu cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tocynnau, anfonwch e-bost at contactus@aandbcymru.org.uk