Mynd i'r cynnwys
Aelodau o Only Boys Aloud yn perfformio ar lwyfan

Prosper 2022-23

Codi Arian ar gyfer y Dyfodol

Nodau ac amcanion y cynllun

Mae’n bleser gan C&B Cymru gyhoeddi rownd newydd o’i fenter Prosper, diolch i gyllid gan Foyle Foundation.
Nod y cynllun yw datblygu gallu a sgiliau codi arian sefydliadau celfyddydol ledled Cymru, gan eu cynorthwyo i ddod yn fusnesau elusennol llwyddiannus, ffyniannus a chynaliadwy.

Gwahoddir ceisiadau gan:

  • Codwyr arian sydd am ddatblygu ei sgiliau a gwybodaeth er mwyn amrywio incwm ar gyfer eu sefydliadau
  • Sefydliadau heb staff codi arian penodol sydd am ddatblygu eu gallu i godi arian

Er mwyn sicrhau ei effaith a pherthnasedd, caiff Prosper ei yrru gan anghenion ymgeiswyr a chaiff cefnogaeth ei theilwra yn benodol i bob mudiad, er mwyn gweld yr effaith mwyaf posib i bawb dan sylw.

Gwahoddir i sefydliadau celfyddydol wneud cais am gefnogaeth i gael mynediad at arbenigedd a hyfforddiant sy’n helpu cyrraedd targedau cynhyrchu incwm a chyflawni nodau sefydliadol.

Llun: Only Boys Aloud 

Gallai cefnogaeth Prosper gynnwys, ond heb gael ei chyfyngu i:

  • Strategaeth Codi Arian. Gallai Prosper ariannu codwr arian proffesiynol profiadol i fentora aelod o staff. Trwy sesiynau â ffocws, gellid creu Strategaeth Codi Arian a fyddai’n cynorthwyo’r sefydliad i gyflawni nodau ac amcanion ei Gynllun Busnes.
  • Nawdd gan Ymddiriedolaeth. Gallai Prosper ariannu presenoldeb rheolwr celfyddydol ar gwrs hyfforddi arbenigol a pharu’r cyfranogwr â mentor codi arian ag arbenigedd penodol yn y maes hwn i gefnogi’r dysgu.
    Marchnata Mentrau Codi Arian Newydd. Gallai Prosper ariannu deunyddiau hysbysebol i helpu sefydlu cynllun codi arian newydd a pharu’r cyfranogwr gydag arbenigwr marchnata i gynorthwyo’r broses hon.
  • Meithrin Darpar Gyfranwyr. Gallai C&B Cymru ddarparu cyngor a chymorth Rheoli Digwyddiadau wedi’u teilwra i gynorthwyo gyda darparu digwyddiad amaethu i arddangos gwaith sefydliad i ddarpar gyllidwyr / noddwyr, ac ati.
  • Nawdd Busnes. Gallai’r cyfranogwr gael ei fentora i greu cynigion pwrpasol a derbyn arweiniad ar bartneriaid busnes posib.
  • Rhoddion gan Unigolion. Gallai’r cyfranogwr dderbyn cefnogaeth i adnabod a sefydlu’r cynlluniau mwyaf priodol ar gyfer ei sefydliad.
  • Cyrsiau Hyfforddi. Gallai C&B Cymru gyflwyno Seminar Codi Arian pwrpasol i staff a bwrdd y cyfranogwyr.

I wneud cais am gefnogaeth trwy Prosper, mae’n rhaid:

  • eich bod chi wedi eich cyflogi gan sefydliad celfyddydol sydd wedi’i ymrwymo at ddatblygu ei sgiliau a gallu codi arian;
  • eich bod chi’n gallu dangos yn glir sut allai’r cynllun helpu cyrraedd targedau cynhyrchu incwm a chynaladwyedd y sefydliad;
  • i chi gwblhau ffurflen gais Prosper ar y cyd gyda’ch rheolwr llinell a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr i ymgymryd â’r prosiect arfaethedig;
  • eich bod chi wedi eich cyflogi gan sefydliad celfyddydol nid-er-elw sy’n aelod o C&B Cymru.

Mi fydd y mwyafrif o brosiectau Prosper yn cynnwys cefnogaeth ariannol a mynediad at arbenigedd penodol am ddim. Gall sefydliadau wneud cais am rhwng £300 – £3,000 fel elfen ariannol y prosiect.

.

Mae Prosper yn fenter C&B Cymru a wnaed yn bosibl gyda chefnogaeth hael gan:

Logo Foyle Foundation

Diddordeb?

I ddarganfod mwy am Prosper, llenwch y Ffurflen isod