Mynd i'r cynnwys
Gwraig ifanc sy’n gwisgo clustffonau hen ffasiwn yn cymryd nodiadau fel rhan o ‘Machinal’ Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Llun gan Mark Douet

Sgiliau i Lwyddo

Meithrin Gwydnwch a Hyder yn y Celfyddydau

Y Rhaglen

Mae C&B Cymru yn falch i gyhoeddi trydedd flwyddyn ei raglan Sgiliau i Lwyddo, diolch i gefnogaeth hael Garfield Weston Foundation.

Nod Sgiliau i Lwyddo yw rhoi’r offer angenrheidiol i sefydliadau celfyddydol ddod yn weithrediadau cadarn, cynaliadwy a hyderus. Gwasanaeth wedi’i deilwra sy’n anelu at feithrin sgiliau a gallu, mae’n edrych yn strategol ar yr heriau sy’n wynebu sefydliadau ac yn darparu atebion effeithiol ac ymarferol i’w goresgyn.

Er mwyn sicrhau ei heffaith a’i pherthnasedd, gyrrir y fenter gan anghenion yr ymgeiswyr, er mwyn cael gymaint o effaith â phosib i bawb.

Mae prosiectau Sgiliau i Lwyddo yn dilyn proses 3-cham:

ASESIAD 

Pan dderbynnir ffurflen gais wedi’i llenwi, mi fydd C&B Cymru yn trefnu cyfarfod gyda’r sefydliad celfyddydol er mwyn deall yn gywir yr heriau craidd a wynebir. Yn dibynnu ar natur y rhain, gall aelodau’r bwrdd gael eu cyfweld ac efallai bydd eisiau i C&B Cymru adolygu gwaith papur perthnasol e.e. cyllideb, cynllun busnes, strategaeth farchnata a / neu gynlluniau codi arian.

Wedyn paratoir adroddiad yn amlinellu atebion ymarferol awgrymedig. Yn y mwyafrif o achosion, mi fydd yr ateb yn un amlochrog, ynghyd ag amserlen er mwyn cadw momentwm. Bydd strwythur ac amgylchiadau penodol y sefydliad yn dylanwadu ar awgrymiadau Cam 2.

GWEITHREDIAD 

Cynhelir ail gyfarfod i drafod a chytuno’r awgrymiadau fel y gall C&B Cymru roi cynllun gweithredu wedi’i deilwra ar waith. Ymhlith y rhwystrau i lwyddiant sefydliadol sydd fwyaf tebygol o gael eu nodi mae Llywodraethu, Cynllunio Busnes a Strategaeth, Cyllid, AD, TG a Marchnata.

GWEITHGARWCH DILYNOL 

Ar ôl cwblhau’r cynllun gweithredu, mi fydd y sefydliad celfyddydol yn cyflwyno arfarniad byr i fesur llwyddiant cychwynnol y prosiect ac i adnabod unrhyw anghenion sgiliau eraill. Mi fydd lefel y gofal pellach yn dibynnu ar anghenion unigol y prosiect.

Cais

I wneud cais am gymorth drwy Sgiliau i Lwyddo, mae’n rhaid i’ch sefydliad fod yn aelod nid-er-elw C&B Cymru. Dylai pob sefydliad sydd â diddordeb gysylltu â C&B Cymru drwy lenwi’r ffurflen gyswllt isod.

Llun: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae Sgiliau i Lwyddo yn Rhaglen C&B Cymru a wnaed yn bosibl gyda chefnogaeth hael gan

Garfield Weston Foundation logo

Mae Sgiliau i Lwyddo wedi bod yn amhrisiadwy i Gwrt Insole. Bydd y gefnogaeth, yr arweiniad a’r mentora a roddir i arweinyddiaeth y sefydliad yn cael effaith barhaol ar yr elusen. Rydym yn hynod ddiolchgar i C&B Cymru am y cyfle ac yn argymell y rhaglen yn fawr.

Gray Hill, Cyfarwyddwr, Cwrt Insole

Diddordeb mewn cymryd rhan?

Cysylltwch â ni drwy'r ffurflen isod