Derbynnydd
Sefydliad
NoFit State Circus
Lleoliad
Caerdydd
Disgrifiad
Mae NoFit State yn dymuno penodi rhywun i ymuno a thim cryf ac effeithiol y dderbynfa.
Mae gwaith derbynfa yn un o rolau pwysicaf y cwmni, sy'n sicrhau bod rhaglen ddosbarthiadau a rhaglen gweithgareddau cymunedol y cwmni'n rhedeg yn esmwyth a'u cefnogi, a chydweithio'n agos â'r tîm gweinyddol.
Mae'n rhaid eich bod yn drefnus, yn frwd, yn ddeinamig ac yn gyfeillgar gan gyd-fynd â gwerthoedd y sefydliad. Byddwch yn cydweithio â'n cymuned amrywiol ac yn trin ei haelodau ag urddas a pharch. Cawn ein hysbrydoli'n barhaus gan y pethau rhyfeddol y gall pobl gyffredin eu gwneud ac rydym yn cynnig awyrgylch cynhwysol i bawb.
Rydym yn gweithio i roi cyfleoedd hygyrch a chreadigol i bawb i ymwneud â chelfyddyd unigryw syrcas gyfoes, ac rydym yn annog pobl i feithrin hunan-fri, i fynegi eu creadigrwydd ac i feithrin perthynas â'u cymuned, gan ddysgu sgiliau newydd a chael profiadau newydd.
NoFit State yw’r mwyaf o gwmnïau syrcas gyfoes teithiol y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, mae'r cwmni'n dod i gysylltiad â 120,000 - 150,000 o bobl o bob oedran a chefndir o Gymru, y Deyrnas Unedig a'r byd.
I gael gwybod rhagor ac ymgeisio: https://www.nofitstate.org/gyrfaoedd
Oriau gwaith: Rhan amser
Cyflog: £12.60 yr awr
Lleolaiad: Caerdydd
Dyddiad cau: 10am, dydd Mawrth 17 Mehefin
Ymunwch â ni!
Dolen i Ymgeisio
https://www.nofitstate.org/gyrfaoedd
Cyflog
£12.60 per hour
Dyddiad cau
June 17, 2025