Ymgynghorydd Iechyd Meddwl Cynorthwyol
Sefydliad
CBCDC
Lleoliad
Caerdydd
Disgrifiad
Mae RWCMD yn awyddus i benodi Ymgynghorydd Iechyd Meddwl Cynorthwyol sy’n unigolyn cadarn a pharod i addasu. Gan weithio mewn tîm bach o weithwyr proffesiynol ym maes niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lwyth achosion o fyfyrwyr a bydd yn darparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi cael diagnosis a’r rhai sy’n profi anawsterau o ran llesiant. Bydd yn hwyluso mynediad at astudio ac yn cynorthwyo i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arweiniad iechyd meddwl ar draws y sefydliad. Bydd yn cefnogi’r Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr i weithredu’r gwasanaeth yn briodol o ddydd i ddydd.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau proffesiynol perthnasol, aelodaeth broffesiynol addas, a bod yn ymarferydd iechyd meddwl profiadol. Byddai profiad o weithio mewn lleoliadau addysg i oedolion neu yn y gymuned yn fanteisiol. Mae arbenigedd mewn iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr, a'r anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr mewn cyd-destun addysg uwch, yn hanfodol. Mae angen sgiliau TG a gweinyddu rhagorol ar gyfer y rôl.
Bydd y rôl hon, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac ar sail hybrid, yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich ystod o sgiliau fel ymarferydd iechyd meddwl arbenigol. Mae hon yn swydd barhaol a llawn-amser. Bydd rhannu swydd yn cael ei ystyried.
Dolen i Ymgeisio
https://www.rwcmd.ac.uk/cy/careers
Cyflog
£34312 - £39355
Dyddiad cau
June 8, 2025