
Amdanom Ni
Yn sefydliad aelodaeth ac yn elusen, rôl C&B Cymru yw hyrwyddo, galluogi, datblygu a chynnal partneriaethau rhwng busnes a’r celfyddydau sydd o fudd i’r ddwy ochr.
Gwerth craidd C&B Cymru yw ei allu tra datblygedig i ddeall beth sydd ei angen ar sefydliad a’i gyflawni.
Mae’r gwaith hwn yn helpu busnes a’r celfyddydau i ddod yn gryfach trwy gydweithio.
Mae’r tîm bach, medrus o staff yn gweithio er budd Cymru yn unig – ei sector creadigol, ei heconomi busnes a chymunedau ledled y wlad.
Llun: Glenn Edwards
Hanes
Sefydlwyd C&B Cymru yn wreiddiol fel ABSA Cymru, rhan o sefydliad yn y DU o’r enw Association of Business Sponsorship of the Arts. Agorwyd swyddfa Caerdydd ym 1988. Newidiodd ABSA ei henw i Arts & Business ym 1999.
Gan gydnabod ei bwysigrwydd yng Nghymru, datganolodd Bwrdd C&B y DU y gweithrediad a sefydlodd Arts & Business Cymru (C&B Cymru) fel elusen Gymreig annibynnol ar 1 Tachwedd 2011. Mae’r sefydliad wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
Cwrdd â'r Tîm
Llywodraethu
Y Bwrdd
Llywodraethir C&B Cymru gan Fwrdd y mae ei aelodau gyda’i gilydd yn darparu arbenigedd a gwybodaeth leol i lywio strategaeth yr elusen a goruchwylio ei rheolaeth a’i llywodraethu.
Mae’r Bwrdd presennol yn cynnwys:

Anthony Wedlake - Cadeirydd
Cyn-Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Furness Building Society

Nkechi Allen-Dawson
Rheolwr Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant, Coleg Gwent

Claire Charlton
Pennaeth Hawliadau Cartref, Admiral Group Plc

Ruthy Fabby MBE
Llawrydd Celfyddydau, Ruffyarts

David Landen - Cadeirydd, Is-Bwyllgor Cyllid
Prif Weithredwr, Hodge Bank

Louisa Scadden
Cyfarwyddwr, Moondance Foundation
Gwybodaeth Statudol
Dau gwmni sy’n ffurfio Grŵp Arts & Business Cymru: Arts & Business Cymru (elusen gofrestredig – 1143772 – a chwmni cyfyngedig trwy warant heb gyfalaf cyfrannau – Cymru a Lloegr 7767380), ac un is-gwmni a berchenogir yn gyflawn (Arts & Busnes Cymru Trading Cyfyngedig – Cymru a Lloegr 7800296). Swyddfa gofrestredig y ddau gwmni yw 16 Plas yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BH.
Arts & Business Cymru Trading Ltd
Mae gan C&B Cymru gangen fasnachu fasnachol sy’n rhoi’r holl elw i’r elusen.
Y Cyfarwyddwyr yw:
Rachel Jones, Prif Weithredwr, C&B Cymru
David Landen, Prif Weithredwr, Hodge Bank
David Morpeth, Cynghorydd Busnes
Cliciwch yma am Bolisi Amrywiaeth y Bwrdd