Mynd i'r cynnwys
Chwe dawnsiwr ifanc wedi gwisgo mewn gwisg oren llachar yn perfformio yn yr awyr agored yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Celfyddydau

Ers dros 35 mlynedd, mae C&B Cymru wedi bod yn helpu pobl greadigol i redeg busnesau creadigol llwyddiannus a chynaliadwy.

Mae ein gwaith gyda’r sector yn canolbwyntio ar ddau angen craidd:

Datblygu Incwm
Datblygu Sgiliau

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae’r angen i amrywio ffrydiau incwm, rhedeg yn effeithiol ac effeithlon a sicrhau llywodraethu cryf a chyfrifol yn hanfodol i oroesiad pob sefydliad.

Llun: Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Aelodaeth Celfyddydol

Mae aelodau celfyddydol C&B Cymru yn amrywio o unigolion i sefydliadau cenedlaethol.

Dewch yn aelod

Swyddi Celfyddydol

Mae hysbysebu swyddi trwy ein gwefan a'n bwletinau yn rhad ac am ddim i aelodau celfyddydol C&B Cymru ac yn costio £50 + TAW i’r rhai nad ydynt yn aelodau.

Chwilio am swydd

Datblygu Incwm

Mae C&B Cymru yn gatalydd hanfodol ar gyfer buddsoddiad sector preifat yn y celfyddydau. Bob blwyddyn, mae'r elusen yn denu dros £1.5 miliwn yn uniongyrchol i'r sector.

Datblygu Incwm

Datblygu Sgiliau

Trwy ddarparu rhaglenni sy'n ymateb i anghenion hyfforddi presennol, mae C&B Cymru yn cryfhau rheolaeth y celfyddydau, yn datblygu sgiliau ac yn cynorthwyo cynaliadwyedd mewn ffyrdd diriaethol a phellgyrhaeddol.

Datblygu Sgiliau