Mynd i'r cynnwys
Perfformiwr o Upside Down Circus wedi gwisgo fel pelen ddrych yn cydbwyso ar ei ddwylo

Datblygu Incwm

Mae C&B Cymru yn gatalydd hanfodol ar gyfer buddsoddiad sector preifat yn y celfyddydau. Bob blwyddyn, mae’r elusen yn denu dros £1.5 miliwn yn uniongyrchol i’r sector.

Gyda’i rwydwaith sefydledig o bartneriaid sy’n datblygu’n barhaus, mae’r tîm mewn sefyllfa gref i annog buddsoddiad newydd a dyfnhau’r buddsoddiad presennol yn y celfyddydau ledled Cymru.

Rydym yn helpu’r celfyddydau i amrywio eu ffrydiau incwm drwy’r gwasanaethau allweddol canlynol:

  • Cyngor ac Ymgynghoriaeth
  • Broceriaeth
  • Rhaglen Fuddsoddi CultureStep
  • Digwyddiadau a Rhwydweithio
Llun: Upside Down Circus yng Ngwobrau C&B Cymru

Cyngor ac Ymgynghoriaeth

Cyngor wedi'i deilwra ar bob agwedd ar godi arian yn y sector preifat, gan gynnwys ymgynghoriaeth ar gynigion nawdd.

Broceriaeth

Gwahoddiadau i gyflwyno cynigion i gyflawni prosiectau ar gyfer aelodau busnes C&B Cymru.

Cliciwch yma i gael gwybod am y partneriaethau creadigol rydyn ni wedi’u creu.

Rhaglen Fuddsoddi CultureStep

Mae C&B Cymru yn buddsoddi arian mewn partneriaethau arloesol o bob math rhwng busnes a’r celfyddydau, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.

Rhaglen Fuddsoddi CultureStep

Digwyddiadau a Rhwydweithio

Cynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau bob blwyddyn, sy’n hyrwyddo budd ac effaith partneriaeth o safon, tra’n arddangos safon uchel y celfyddydau ledled Cymru.

Ein Rhaglen Ddigwyddiadau