Mynd i'r cynnwys

Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae Celfyddydau & Busnes Cymru o ddifrif ynghylch preifatrwydd gwybodaeth. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar waith o 25 Mai 2018 ymlaen ac mae ei wedi ei gyflwyno er mwyn ei wneud yn haws i chi gwybod sut rydym yn trin eich gwybodaeth, yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU.

Ni fydd unrhyw newidiadau i’r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, ac ni fydd Celfyddydau & Busnes Cymru byth yn rhannu eich data gyda sefydliadau allanol.

Mae cyfeiriadau at “ni” neu “ein” yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn cyfeirio at Gelfyddydau & Busnes Cymru, elusen wedi’i chofrestru yn Lloegr a Chymru: 1143772.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am:

  • Y rhesymau pam ein bod ni’n casglu a phrosesu gwybodaeth amdanoch;
  • Sail gyfreithlon y prosesu hwnnw;
  • Sut rydym yn casglu gwybodaeth bersonol ac am ba mor hir rydym yn ei chadw;
  • Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth; a
  • Ble i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am eich hawliau preifatrwydd.

Nodau casglu eich gwybodaeth

Bydd Celfyddydau & Busnes Cymru yn casglu a phrosesu gwybodaeth amdanoch at y dibenion canlynol:

Mewn ymateb i ymholiad yn bersonol, ar y ffôn, trwy’r post, trwy ein gwefan neu ddulliau digidol, i gael eich cynnwys yn ein rhestr bost, i gofrestru fel aelod neu fynegi diddordeb mewn dod yn aelod neu i danysgrifio i un o’n digwyddiadau neu wasanaethau. Bydd hyn yn eich galluogi chi i gael gwybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd nesaf Celfyddydau & Busnes Cymru.
Casglwn eich manylion cyswllt (yn cynnwys enw, cyfeiriad, e-bost, ffôn, enw cyfryngau cymdeithasol) yn dibynnu ar eich caniatâd dealledig a diddordeb dilys. Caiff y wybodaeth a gesglir ac a brosesir am y broses hon ei chadw am gyfnod amhenodol.

Er mwyn eich cysylltu â chi gyda manylion y digwyddiadau, gwasanaethau, cyfleoedd hyfforddi a gynigwn i’n Haelodau trwy’r post, ar y ffôn neu drwy ddulliau digidol.
Ceisiwn deilwra cyfathrebiadau marchnata i’ch diddordebau penodol fel Aelod, neu fusnes, unigolyn neu sefydliad celfyddydol sydd â diddordeb, a gwnawn hyn drwy gadw eich gwybodaeth ar ein cronfa ddata cysylltiadau ac aelodau diogel (System Rheoli Perthnasoedd â Chwsmeriaid – CRM).

Y sail gyfreithlon am y prosesu hwn yw ei fod o fewn fuddiant dilys Celfyddydau & Busnes Cymru ond mae angen eich caniatâd chi er mwyn eich cysylltu â chi drwy ddulliau electronig oni bai bod gennych eisoes berthynas gyda Chelfyddydau & Busnes Cymru, naill ai fel aelod, cyn-aelod, aelod posibl, cyflenwr neu dderbynnydd ein gwasanaethau.

Gallwch dynnu’n ôl eich caniatâd i dderbyn y bwletinau ac e-cylchlythyrau hyn ar unrhyw bryd. Mae Celfyddydau & Busnes Cymru yn cynnig yr opsiwn i ddad-danysgrifio’n awtomatig ar waelod bob e-bost.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich data?

Caiff y wybodaeth a gesglir ac a brosesir at y diben hwn ei chadw cyhyd ag y bydd ei hangen i gyflawni’r dibenion y casglwyd hi ar eu cyfer. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff eich data naill ai ei ddileu yn llwyr neu ei droi’n ddienw fel y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd anadnabyddadwy ar gyfer dadansoddiad ystadegol, adroddiadau a chynllunio busnes.

Gwybodaeth ychwanegol

Caiff y wybodaeth a ddefnyddiwn at y dibenion a amlinellir uchod ei chasglu oddi wrthoch chi yn uniongyrchol, efallai o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus a/neu yn cael ei chymryd o wybodaeth a ddelir eisoes gan Gelfyddydau & Busnes Cymru.

Rhannu eich data

Ni fyddwn byth yn rhannu eich data gyda chwmnïau allanol heblaw am y rheini a ddewisir i brosesu manylion ein haelodau a’n cleientiaid at ddibenion Cyfrifo (anfonebu ar gyfer digwyddiadau, ffioedd aelodaeth, nawdd, hyfforddi a gwasanaethau eraill). Rydym wedi rhoi ar waith cytundebau cytundebol gyda’r sefydliad canlynol i sicrhau bod eich data yn ddiogel ac wedi’i gwarchod bob amser. Dylid gwneud unrhyw gais i gael eich tynnu oddi ar y systemau hyn i Gelfyddydau & Busnes Cymru yn uniongyrchol.

Mae cytundebau cytundebol ar waith gyda chyflenwyr yn cynnwys:

Cyflenwr: Sage

Cyfrifoldeb: Prosesu Cyfrifon

Ni fydd Celfyddydau & Busnes Cymru yn rhannu eich data personol at ddibenion marchnata gyda chwmnïau allanol.

Eich Hawliau Preifatrwydd

Mae sawl hawl gennych yn unol â deddfwriaeth diogelu data, yn cynnwys yr hawl i wneud cwyn gyda’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Os hoffech wybodaeth bellach am sut mae Celfyddydau & Busnes Cymru yn prosesu data, cysylltwch â ni ar contactus@aandbcymru.org.uk

Mae Celfyddydau & Busnes Cymru yn elusen gofrestredig ac yn dibynnu ar roddion gan unigolion, cwmnïau ac ymddiriedolaethau i wneud ei gwaith hanfodol yn bosib. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gweithgareddau codi arian gofynnwn i chi gysylltu yn y lle cyntaf gyda Chelfyddydau & Busnes Cymru yn uniongyrchol ond gellir hefyd cyfeirio unrhyw gwynion at Y Rheoleiddiwr Codi Arian trwy ymweld â www.fundraisingregulator.org.uk neu i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ymweld â www.ico.org.uk

Mynediad at eich data personol a chywiriadau

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi. Os hoffech gopi o’r data personol rydym ni’n ei ddal amdanoch chi, neu os hoffech ddiweddaru, cywiro neu dynnu yn ôl data sydd yn eich barn chi’n anghywir, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom at y cyfeiriad canlynol, contactus@aandbcymru.org.uk Celfyddydau & Busnes Cymru, 16 Plas yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BH.

Cwcis

Ffeiliau testun bach i’w cwcis a gaiff eu storio gan eich porwr gwe (e.e. Internet Explorer, Chrome, Safari, Firefox) ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol er mwyn galluogi i’r wefan weithio’n effeithiol (er enghraifft i storio dewisiadau’r defnyddiwr).

Am wybodaeth bellach ymwelwch â www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.

Sut mae gwefan Celfyddydau & Busnes Cymru yn defnyddio cwcis?

Mae gwefan Celfyddydau & Busnes Cymru yn defnyddio cwci i gofnodi a yw porwr y defnyddiwr yn galluogi defnydd o Javascript, dyfais gyffredin ar wefannau sy’n galluogi rhyngweithio fel animeiddio elfennau ar y dudalen e.e. dangos a diffodd delweddau. Mae’r cwci yn arwydd ie/na syml, ac nid yw’n cynnwys data personol o gwbl. Mae ein gwefan hefyd yn defnyddio Google Analytics. Mae Google Analytics yn declyn sy’n caniatáu i ymddygiad defnyddwyr ar wefan gael ei ddadansoddi, er mwyn helpu perchennog y wefan i ddarparu’r profiad gorau i’r defnyddiwr. Mae Google Analytics yn cynhyrchu cwcis sy’n nodi a ydych chi wedi ymweld â’r wefan o’r blaen, pa dudalennau yr ymwelwch chi â nhw, ayb. Ni all y cwcis hyn gael eu defnyddio i adnabod unigolion; maent yn cael eu defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig ac nid yw’r data’n dangos unrhyw wybodaeth gyfrinachol. Mae’r data ei hun yn weladwy i berchennog y wefan yn unig, ynghyd â darparwr y wefan Spindogs a’r tîm perthnasol yn Google.

Mae’r wefan hon yn cynnwys technoleg sy’n galluogi rhyngweithio â gwefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter. Mae hyn yn wasanaeth sy’n caniatáu rhyngweithio â gwefannau cyfryngau cymdeithasol trydydd parti. Dylech fod yn ymwybodol y gall y safleoedd hynny hefyd osod cwcis wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon, eto i wella ymarferoldeb. Nid yw Celfyddydau & Busnes Cymru yn gyfrifol am y cwcis trydydd parti hyn ac mae gennych ddewis i beidio â’u galluogi, er y gall hyn effeithio ar ymarferoldeb. Am ragor o fanylion, dylech wirio polisïau preifatrwydd y gwahanol wasanaethau dan sylw.

Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd fideo / sain o YouTube neu Vimeo a dylech chi fod yn ymwybodol y gall y safleoedd hynny osod cwcis wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon, unwaith eto i wella ymarferoldeb. Nid yw Celfyddydau & Busnes Cymru yn gyfrifol am y cwcis trydydd parti hyn ac mae gennych ddewis i beidio â’u galluogi, er y gall hyn effeithio ar ymarferoldeb. Am ragor o fanylion, dylech wirio polisïau preifatrwydd y gwahanol wasanaethau dan sylw.

Mewn perthynas uniongyrchol â gwefan Celfyddydau & Busnes Cymru, gallwch gyfyngu neu atal y cwcis a ddefnyddir gan y wefan drwy newid gosodiadau eich porwr ond bydd hyn yn effeithio ar eich profiad fel defnyddiwr. Dylai adran Help eich porwr ddangos i chi sut i’w wneud.

Gwefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig felly pan rydych yn dilyn dolen i wefannau eraill dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd nhw.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn nodi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ym Mai 2018.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi preifatrwydd neu am y data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi:

E-bost: contactus@aandbcymru.org.uk

Ffôn: 02920 303023

Post: Celfyddydau & Busnes Cymru, 16 Plas yr Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3BH.