Mynd i'r cynnwys
Perfformiwr syrcas Organized Kaos wedi'i wisgo fel draig goch wedi'i hongian o rig wrth giât ymadael Maes Awyr Caerdydd

Marchnata a Negesu Creadigol

Mae C&B Cymru yn adnabod cyfleoedd partneriaeth gelfyddydol sy’n helpu aelodau busnes i leoli eu brandiau, cysylltu â rhagoriaeth, codi eu proffil a chyfleu negeseuon mewn ffyrdd creadigol ac effeithiol. Rydym yn helpu busnesau o bob maint a sector i gyflawni’r amcanion hyn drwy:

Llun: Organised Kaos yn Celf yn y Maes Awyr

Rydym yn helpu busnesau o bob maint a sector i gyflawni’r amcanion hyn drwy:

Broceriaeth

Mae broceriaeth yn ymwneud â gwaith C&B Cymru i ddod â phartneriaeth busnes / celfyddydau ynghyd, gan sicrhau bod y cydweddiad yn gywir a bod anghenion yn cyd-fynd yn berffaith.

Gweler ein hastudiaethau achos

Rhaglen Fuddsoddi CultureStep

Mae CultureStep yn buddsoddi mewn partneriaethau arloesol rhwng busnes a’r celfyddydau, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.

Dysgwch am CultureStep

Digwyddiadau a Rhwydweithio

Mae rhaglen ddigwyddiadau gynhwysfawr C&B Cymru yn hyrwyddo pŵer partneriaeth o safon, yn darparu cyfleoedd rhwydweithio proffil uchel ac yn arddangos rhagoriaeth y celfyddydau yng Nghymru.

Rhaglen Ddigwyddiadau C&B Cymru