Mynd i'r cynnwys
Perfformiwr ar stiltiau wedi gwisgo fel paun yn yr awyr agored ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor yn Sir Benfro

Aelodaeth Celfyddydol

Mae aelodau celfyddydol C&B Cymru yn amrywio o ymarferwyr unigol i sefydliadau cenedlaethol.

Mae’r buddion yn cynnwys mynediad at gyngor arbenigol, hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio ac arddangos, yn ogystal â holl raglenni a gwasanaethau C&B Cymru. Mae’r prisiau’n dibynnu ar drosiant ac yn amrywio o £125 – £500 + TAW.

Cliciwch yma i weld ein rhestr lawn o aelodau celfyddydol.

Gweler isod am fanylion aelodaeth lawn a dewch yn rhan o’n rhwydwaith celfyddydol cyffrous.

Llun: Organised Kaos yn Celf yn y Sŵ

Gwasanaethu’r Celfyddydau: Beth all C&B Cymru wneud i chi?

Mae aelodaeth o C&B Cymru yn bodoli i gefnogi a hyfforddi unigolion sy’n gweithio yn y celfyddydau i ddatblygu eu hincwm a’u sgiliau. Mae’r buddion penodol yn cynnwys:

Cyngor ac Ymgynghoriaeth

Cyngor wedi’i deilwra am ddim ar bob agwedd ar bartneriaeth sector preifat. Gall hyn gynnwys ymgynghoriaeth ar dargedau nawdd ac adborth ar gynigion drafft.

Cyfleoedd Broceriaeth

Gwahoddiadau i gyflwyno cynigion i gyflawni prosiectau ar gyfer aelodau busnes C&B Cymru.

Mynediad Unigryw i Raglenni

Mae rhaglenni C&B Cymru ar gael yn arbennig ar gyfer aelodau celfyddydol. Maent yn cynnwys:

  • Prosper
  • Rhaglen Fuddsoddi CultureStep
  • Rhaglen Interniaethau Creadigol
  • Rhaglen Prentisiaethau Creadigol
  • Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol
  • Sgiliau i Lwyddo

Fforwm Codi Arian

Yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Cymru, mae’r sesiynau hanner diwrnod rhad ac am ddim yn cynnwys siaradwyr gwadd o safon uchel a’r cyfle i rwydweithio ag unigolion sy’n wynebu problemau tebyg, gan ddysgu oddi wrth eu profiadau.

Hyrwyddo Cyfleoedd Nawdd i Fusnesau

Cynhwysiant yn e-fwletinau cyfleoedd deufisol C&B Cymru, a anfonir yn arbennig at aelodau busnes.

Hyrwyddo Swyddi Gwag

Cynhwysiant am ddim o swyddi gwag ar wefan C&B Cymru ac yn y bwletin recriwtio misol.

Cyfleoedd Arddangos

Gwahoddir aelodau i wneud cais am amrediad o gyfleoedd perfformio ac arddangos proffil uchel.

Cyrsiau Hyfforddi

Prisiau gostyngol a blaenoriaeth wrth archebu ar gyfleoedd datblygu sgiliau o ansawdd uchel mewn Amrywiaeth, Codi Arian, Llywodraethu a Sgiliau Busnes.

Buddion Eraill

  • Credyd ar wefan C&B Cymru gyda hyperddolen at safle’r aelod;
  • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau rhwydweithio C&B Cymru a gynhaliwyd ledled Cymru trwy gydol y flwyddyn;
  • Archebu blaenoriaethol a seddi a hysbysebu gostyngol ar gyfer Gwobrau blynyddol C&B Cymru.

Prisiau Aelodaeth

Trosiant Blynyddol Pris
£0 – £100,000 £125 + TAW
£250,001 – £500,000 £175 + TAW
£500,001 – £1,000,000 £200 + TAW
£1,000,001 – £2,000,000 £250 + TAW
£2,000,001 + £300 – £500 + TAW

Bwrsariaethau Celfyddydol Hodge Foundation

Diolch i gefnogaeth Hodge Foundation, gall C&B Cymru gynnig seibiant talu o 12 mis ar eu tanysgrifiadau aelodaeth i nifer cyfyngedig o sefydliadau celfyddydol. I wneud y mwyaf o effaith y cynllun, bydd bwrsariaethau ar gael yn arbennig i’r sefydliadau celfyddydol canlynol:

  • Cwmnïau newydd nad ydynt wedi gweithio gyda C&B Cymru o’r blaen ac sy’n wynebu risg uchel, yn rhannol oherwydd eu bod yn gyfyngedig o ran nifer y cyllidwyr y gallant fynd atynt;
  • Cwmnïau bach â throsiant o lai na £500K sy’n dibynnu ar incwm a enillir i oroesi ac sydd wedi’u heffeithio’n fawr gan y pandemig;
  • Sefydliadau y mae eu gwaith o fudd i gynulleidfaoedd a dangynrychiolir. Bydd C&B Cymru yn blaenoriaethu cwmnïau sy’n canolbwyntio ar bobl sy’n wynebu rhwystrau i ymgysylltu â’r celfyddydau a chyfranogiad ynddynt. Yn benodol, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Amrywiol, sydd ag anableddau neu sy’n byw mewn tlodi.

Os hoffech wneud cais am Fwrsariaeth, nodwch ar y ffurflen gyswllt isod.

Mae C&B Cymru yn parhau i fod yn ffrind anhygoel i Hijinx. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth y gallwn ei chael, ac am allu galw ar C&B i helpu i lywio heriau, ein cysylltu ag arbenigwyr, a meithrin perthnasoedd â sefydliadau y gallwn adeiladu cyfleoedd newydd gyda nhw.

Sarah Horner, Prif Weithredwr, Hijinx

Ymaelodwch

Os hoffech ddod yn Aelod Celfyddydol, llenwch y ffurflen isod









    Hysbysiad Preifatrwydd

    Drwy lenwi’r ffurflen aelodaeth hon rydych yn cytuno y gall C&B Cymru gasglu, prosesu a chadw’r wybodaeth uchod ar ei system at y dibenion a ganlyn:

    • Er mwyn eich galluogi i gymryd rhan mewn rhaglenni Aelodau Celfyddydol
    • I’n galluogi i gysylltu â chi gyda manylion digwyddiadau a gwasanaethau perthnasol eraill, drwy’r post, dros y ffôn neu drwy ddulliau electronig.

    Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac ni fyddwn byth yn rhyddhau eich manylion personol i unrhyw sefydliad neu unigolyn y tu allan i C&B Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am Bolisi Preifatrwydd C&B Cymru, ewch i cab.cymru/hysbysiad-preifatrwydd/



    Peidiwch ag anfon taliad ar hyn o bryd. Bydd A&B Cymru yn anfon anfoneb atoch ar ôl derbyn y ffurflen wedi'i chwblhau.