Mynd i'r cynnwys
Grŵp o ddawnswyr Rubicon anabl a heb fod yn anabl yn perfformio ar y llwyfan

Amrywiaeth

Mae gwella amrywiaeth a chynrychiolaeth y celfyddydau yng Nghymru yn flaenoriaeth sector a gydnabyddir yn eang. Mae C&B Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i wneud cyfraniad diriaethol yn y maes hwn ac mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys:

  • Rhaglen Prentisiaethau Creadigol
  • Amrywiaeth mewn Llywodraethu
  • Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau
  • Cyrsiau Hyfforddi
Llun: Rubicon

Rhaglen Prentisiaethau Creadigol

Wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sy’n wynebu rhwystrau sylweddol, nod y Rhaglen Prentisiaethau Creadigol yw rhoi cyfleoedd o ansawdd uchel i bobl ifanc, 18+ oed, i gael mynediad at yrfa yn y celfyddydau.

Dysgwch fwy am ein Rhaglen Prentisiaethau Creadigol

Amrywiaeth mewn Llywodraethu

Mae Amrywiaeth mewn Llywodraethu yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Amrywiol, yn ogystal â’r rhai sy’n Anabl, B/byddar a/neu Niwroamrywiol ac yn eu gosod ar Fyrddau Celfyddydau er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol.

Amrywiaeth mewn Llywodraethu

Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau

Mae Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau yn gosod arweinwyr busnes y dyfodol, rhwng 21 a 35 oed, ar Fyrddau sefydliadau celfyddydol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol.

Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau

Cyrsiau Hyfforddi

Mae C&B Cymru yn defnyddio ei arbenigedd a'i rwydwaith i ddarparu cyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel sy'n helpu rheolwyr celfyddydol i ddatblygu sgiliau hanfodol. Mae'r pynciau'n cynnwys Cyllid, Strategaeth, Marchnata ac AD.

Cyrsiau Hyfforddi

Cyrsiau Pwrpasol

Cynigir Cyrsiau Pwrpasol hefyd i sefydliadau unigol mewn ystod o sgiliau busnes.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth