
Diogelu at y Dyfodol
Cefnogi Cenhedlaeth Newydd o Weithwyr Celfyddydol Proffesiynol
Rhaglenni Interniaethau Creadigol a Phrentisiaethau Creadigol
Ariennir gan Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru ac Esmée Fairbairn Foundation
Mae’n bleser gan A&B Cymru gyhoeddi enwau’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y cynllun Diogelu at y Dyfodol 2023/24. Mae’r cynllun arloesol hwn yn rhoi cyfle strwythuredig i genhedlaeth newydd, gynhwysol o bobl broffesiynol ym myd y celfyddydau i sefydlu gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol. Trwy weithio i chwalu rhwystrau, nod A&B Cymru yw helpu i sefydlu gweithlu gwirioneddol amrywiol yn y celfyddydau.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn, mae Diogelu at y Dyfodol yn cyfuno dwy raglen arloesol a phellgyrhaeddol – y Rhaglen Interniaethau Creadigol a’r Rhaglen Prentisiaethau Creadigol.
Mae’r Rhaglen Interniaethau Creadigol yn galluogi rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar i weithio fel codwyr arian dan hyfforddiant mewn sefydliadau celfyddydol ar leoliadau â thâl, am gyfnod o 10 mis. O ystyried yr heriau ariannol sy’n bodoli yn yr hinsawdd sydd ohoni heddiw, mae’n bwysicach nag erioed bod y sector yn meddu ar y gallu i ddenu incwm o nifer o ffynonellau gwahanol. Ers ei sefydlu yn 2013, mae’r rhaglen wedi galluogi 33 o godwyr arian proffesiynol i gael mynediad i’r gweithlu celfyddydol. Rhyngddynt, maent hyd yma wedi codi dros £4.5 miliwn ar gyfer y sector yng Nghymru.
Dechreuodd tri unigolyn newydd ymroddedig a llawn cymhelliant ar eu Interniaethau Creadigol ar 2 Hydref, gan weithio gyda Hijinx, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a Chelfyddydau SPAN.
Nod y Rhaglen Prentisiaethau Creadigol, a lansiwyd yn 2022, yw creu newid sylweddol yng nghyrhaeddiad ac ansawdd y cyfleoedd i gael mynediad at yrfa yn y celfyddydau. Mae’n darparu cyfleoedd i’r rhai hynny sy’n wynebu rhwystrau sylweddol oherwydd hil, anabledd, neu amgylchiadau cymdeithasol-economaidd, trwy eu gosod mewn sefydliadau celfyddydol am gyfnod o 10 mis fel hyfforddeion sy’n derbyn tâl mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol.
Ar 2 Hydref, dechreuodd pedwar Prentis uchelgeisiol newydd ar eu taith greadigol trwy weithio gydag Anthem – Cronfa Gerddoriaeth Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr Iolo a’r Cylch Trefol / Urban Circle.