Mynd i'r cynnwys

Cwrdd â’r Prentisiaid 2023-24

Idris Jones ac Anthem – Cronfa Gerddoriaeth Cymru

Mae gan Idris, sy’n hanu o ganolbarth Cymru, ddiddordeb mawr mewn Cerddoriaeth, Digwyddiadau a Dylunio Graffig, ac enillodd ddiploma estynedig mewn Celf a Dylunio yn y College of Arts, Henffordd. Gan fod llawer o’i alluoedd creadigol yn rhai mae e wedi eu dysgu ar ei liwt ei hun, mae wrth ei fodd yn dechrau ei Brentisiaeth gydag Anthem i ddatblygu ymhellach ei sgiliau a’i gysylltiadau o fewn y diwydiant cerddoriaeth. Fel catalydd dros gerddoriaeth i ieuenctid yng Nghymru, mae Anthem yn cynhyrchu cyfleoedd ar draws gwahanol genres a chymunedau, ac yn meithrin talent amrywiol.

Karema Ahmed a Theatr Iolo

Cerddor a pherson creadigol talentog o Gaerdydd yw Karema ac mae hi’n edrych ymlaen at ddatblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth ymhellach. Oherwydd ei hoffter o’r theatr ac o weithio gyda phlant ifanc, Theatr Iolo yw’r lleoliad delfrydol iddi hi. Mae’r cwmni wedi bod ar flaen y gad yn creu theatr ar gyfer plant yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Bydd cyfrifoldebau Karema yn cynnwys helpu gyda chynyrchiadau theatr, cyflwyno gweithdai mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol, a rheoli’r rhaglen profiad gwaith a lleoliad.

Joanne West a’r Urban Circle

A hithau’n hanu’n wreiddiol o Lundain, symudodd Joanne i Gaerdydd i ddilyn gyrfa yn y celfyddydau yng Nghymru. Mae’n berson creadigol uchelgeisiol sy’n angerddol dros dynnu pobl at ei gilydd. Bydd sgiliau Joanne yn gweddu’n dda i’r Cylch Trefol/Urban Circle – elusen annibynnol wedi’i lleoli yng Nghasnewydd sy’n ymgysylltu, cefnogi a grymuso pobl ifanc a chymunedau.

Laura Moulding a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Graddiodd Laura o Brifysgol De Cymru gyda gradd mewn Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol, ac MA mewn Cyfansoddi Caneuon a Chynhyrchu. Mae hi’n eiriolwr angerddol dros gynwysoldeb a
hygyrchedd o fewn y celfyddydau. Gyda’i hoffter o gerddoriaeth a chydberthynas cymunedol, bydd ei Phrentisiaeth gyda’r Adran Cymuned ac Ymgysylltu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gyfle gwych i ddatblygu ei sgiliau a’i hyder ymhellach.