Mynd i'r cynnwys
Perfformiwr Syrcas NoFit State yn ymgysylltu â thorf o bobl yng Ngŵyl Stryd Clifton

CultureStep

Buddsoddi mewn Cydweithrediadau Creadigol

Wedi’i ariannu gan Hodge Foundation a Moondance Foundation, mae CultureStep wedi’i gynllunio i annog nawdd newydd a datblygu ymgysylltiad busnes sefydledig â’r celfyddydau.

Trwy CultureStep, mae C&B Cymru yn buddsoddi arian parod mewn partneriaethau arloesol o bob math rhwng y ddau sector, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.

Llun: Syrcas NoFit State – Mark Robson Ffotograffydd

Gall partneru â’r celfyddydau alluogi busnesau i gyflawni amcanion craidd mewn ffyrdd creadigol a phellgyrhaeddol a nod CultureStep yw sicrhau’r effaith fwyaf posibl i bawb sy’n gysylltiedig.

Fe’i cynlluniwyd i helpu cwmnïau i gyfathrebu’n uniongyrchol â’u marchnadoedd targed, ymgysylltu’n effeithiol â’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt a chael mynediad at gyfleoedd datblygu staff diriaethol â ffocws.

Mae’r cynllun yn rhoi cymhelliad uniongyrchol i fusnesau bartneru â’r celfyddydau. Yn benodol, i:

  • dangos Elw ar Fuddsoddiad, cynyddu proffil a galluogi lefel uwch o weithgarwch.
  • lleihau’r “risg” o gychwyn ar bartneriaethau newydd gyda sicrwydd cymeradwyaeth C&B Cymru.
  • sicrhau bod partneriaethau’n cael eu monitro a’u gwerthuso i fesur llwyddiant yn erbyn amcanion a osodwyd.

Rhaid defnyddio buddsoddiad CultureStep i gryfhau a datblygu’r berthynas rhwng y busnes a phartneriaid celfyddydol, drwy weithgarwch celfyddydol.

Rhaid i bob prosiect hefyd fod o fudd i unigolion sydd yn byw yng Nghymru a rhaid i brosiectau fynd i’r afael ag o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:

  • Celf a’r Amgylchedd: annog partneriaethau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan ddangos ymrwymiad i arfer gorau amgylcheddol tra’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau.
  • Celf ac Amrywiaeth: gweithio gyda’r celfyddydau i hyrwyddo a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant, ymgysylltu â’r rhai sy’n wynebu rhwystrau ar sail ethnigrwydd, rhyw, galluoedd corfforol, hil, credoau crefyddol neu wleidyddol a chyfeiriadedd rhywiol.
  • Celf a Gweithwyr: annog partneriaethau sy’n cyfuno’r celfyddydau i ddatblygiad gweithwyr ac ar yr un pryd yn ysgogi amgylchedd gweithio mwy creadigol.
  • Celf ac Iechyd a Lles: gweithio gyda’r celfyddydau i gynorthwyo lles meddyliol, emosiynol a / neu gorfforol.
  • Celf a’r Iaith Gymraeg: annog partneriaethau sy’n dathlu ac yn hyrwyddo’r iaith, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl a chymunedau brofi’r celfyddydau drwy’r Gymraeg.
  • Celf a Phlant: ymgysylltu â phobl ifanc dan anfantais gymdeithasol a phobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau, gan wneud gwahaniaeth diriaethol i’w bywydau.
  • Celf a Phobl Hŷn: ymgysylltu â phobl hŷn sy’n agored i niwed, difreintiedig ac ynysig â’r celfyddydau, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
  • Celf a Threchu Tlodi: partneru’r celfyddydau i wella bywydau pobl heb adnoddau digonol i ddarparu safon byw derbyniol sy’n eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes. 

Os oes gennych chi brosiect posibl yr hoffech ei drafod, cysylltwch â C&B Cymru drwy lenwi’r ffurflen gyswllt a bydd rhywun mewn cysylltiad.

Gwneir penderfyniadau CultureStep gan banel a gadeirir gan Brif Weithredwr C&B Cymru. Mae gan aelodau ystod amrywiol o sgiliau ac arbenigedd a dealltwriaeth drylwyr o faterion perthnasol. Mae ganddynt hefyd wybodaeth fanwl am C&B Cymru ac ymrwymiad i’w waith a’i strategaeth.

Mae’r panel yn cynnwys 8 aelod â phleidlais. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter ac yn gweithredu ar yr egwyddor o gydgyfrifoldeb. Mae gan bob aelod lais cyfartal. Y panel yw:

  • Rachel Jones, Prif Weithredwr, A&B Cymru (Cadeirydd)
  • Kathy Brown, cyn-Is-lywydd Cynorthwyol, Buddsoddiad Cymunedol, Barclays plc
  • Robert Lloyd Griffiths, Cynghorydd Busnes
  • Denise Lord, Codwr Arian Llawrydd
  • Samantha Maskrey, Cadeirydd, Darkley Trust
  • Lynne Sheehy, cyn-Rheolwr CCC , Legal & General
  • Richard Tynen, Cyfarwyddwr, The Funding Centre

Dyddiad cau: Dydd Iau 8 Mai 2025
Dyddiad y cyfarfod: Dydd Iau 22 Mai 2025

Dyddiad cau: Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025
Dyddiad y cyfarfod: Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025

Dyddiad cau: Dydd Iau 2 Hydref 2025
Dyddiad y cyfarfod: Dydd Iau 16 Hydref 2025

Dyddiad cau: Dydd Iau 27 Tachwedd 2025
Dyddiad y cyfarfod: Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025

Dyddiad cau: Dydd Iau 5 Mawrth 2026
Dyddiad y cyfarfod: Dydd Iau 19 Mawrth 2026

Ym mlwyddyn ariannol 2024/25, buddsoddodd CultureStep £112,125 mewn 40 o bartneriaethau busnes/celfyddydau. Roedd hyn yn trosoli £527,417 ychwanegol o gymorth busnes yn uniongyrchol i’r celfyddydau – enillion o £4.70: £1.

Roedd 47 o fusnesau yn ymwneud â phrosiectau CultureStep ac roedd 22 o’r rhain yn noddwyr newydd.

Cyflawnwyd pob un o’r wyth blaenoriaeth CultureStep ac mae gweithgareddau yn digwydd yng Nghanolbarth, Gogledd, De a Gorllewin Cymru.

Drwy CultureStep, mae C&B Cymru yn buddsoddi arian parod mewn partneriaethau arloesol o bob math rhwng busnes a’r celfyddydau, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes.

Os oes gennych brosiect posibl yr hoffech ei drafod, cysylltwch â C&B Cymru drwy lenwi’r ffurflen gyswllt a bydd rhywun yn cysylltu.

Cysylltwch â ni

Llenwch y ffurflen isod i gysylltu â ni






    Dysgwch fwy am CultureStep drwy ddarllen ein Hastudiaethau Achos

    Darllenwch ein hastudiaethau achos