Mynd i'r cynnwys
Dyn yn cael ei ffilmio wrth ei ddesg ar y ffôn mewn amgylchedd swyddfa

Sgiliau Busnes

Mae C&B Cymru yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni sy’n helpu unigolion sy’n gweithio yn y celfyddydau i ddatblygu’r sgiliau busnes sydd eu hangen arnynt i redeg eu sefydliadau’n effeithlon ac yn effeithiol. Maent yn cynnwys:

  • Banc Mentora
  • Banc Sgiliau
  • Cyrsiau Hyfforddi
Llun: Hijinx

Banc Mentora

helpu rheolwyr celfyddydol i ddatblygu i'w llawn botensial drwy eu paru ag uwch weithredwyr busnes. Gan ganolbwyntio ar anghenion datblygu'r unigolyn, mae'r mentor yn gweithredu fel seinfwrdd amhrisiadwy ac yn rhoi hyder.

Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol

Banc Sgiliau

paru arbenigedd penodol rheolwyr busnes ag anghenion sefydliadau celfyddydol. Mewn lleoliad tymor byr, rhan-amser, trosglwyddir sgiliau’r ymgynghorydd i reolwr celfyddydol, gan helpu mewn meysydd fel Cynllunio Busnes, Marchnata neu Gyllid.

Mwy o wybodaeth am y Banc Sgiliau

Cyrsiau Hyfforddi

Mae C&B Cymru yn defnyddio ei arbenigedd a'i rwydwaith i ddarparu cyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel sy'n helpu rheolwyr celfyddydol i ddatblygu sgiliau hanfodol. Mae'r pynciau'n cynnwys Cyllid, Strategaeth, Marchnata ac AD.

Rhestr lawn o gyrsiau arfaethedig

Cyrsiau Pwrpasol

Cynigir Cyrsiau Pwrpasol hefyd i sefydliadau unigol mewn ystod o sgiliau busnes.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth