Mynd i'r cynnwys

Cwrdd â’r Interniaid 2023-24

Karolina Birger a Hijinx

Graddiodd Karolina – sy’n dod yn wreiddiol o Wlad Pwyl – gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn
Ffotograffiaeth o Brifysgol De Cymru. Ymgymerodd ag interniaeth Edefyn 1 gydag Elusen Iechyd
Caerdydd a’r Fro yn 2022/23, ac mae hi wrth ei bodd o gael ei dewis ar gyfer lleoliad Edefyn 2 o fis
Hydref ymlaen.

Calum Glanville-Ellis a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Graddiodd Calum Glanville-Ellis o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru eleni gydag MA mewn
Rheoli’r Celfyddydau. Mae’n teimlo’n angerddol wrth edrych ymlaen at ddechrau ar yrfa ym maes codi arian, ac yn gobeithio gallu creu cyfleoedd i bawb gael mynediad at y celfyddydau, waeth beth fo eu cefndir neu eu gallu.

Celeste Ingrams a Celfyddydau SPAN

Graddiodd Celeste o Brifysgol De Cymru gydag MA yn y Celfyddydau, Iechyd a Lles, ac mae’n hapus iawn i ddod yn ôl i Gymru i dechrau eu gyrfa ym maes codi arian gyda Celfyddydau SPAN – elusen fywiog ym maes y celfyddydau cymunedol sydd wedi’i lleoli yn Arberth, Sir Benfro. Mae Celeste, sydd eisoes wedi cael profiad gwerthfawr o weithio yn y sector, yn awyddus i ennill rhagor o sgiliau a gwybodaeth ym maes codi arian er mwyn datblygu eu gyrfa ymhellach.