Mynd i'r cynnwys

Y Grefft o Ofyn: Troi Perthnasoedd yn Fuddsoddiad

10:00 am — 11:30 am 1 Hydref, 2026
Aelodau £0 | Os nad ydych yn aelod £50 + VAT

Mae gofyn am gefnogaeth yn un o’r agweddau pwysicaf – ac yn aml yr un fwyaf heriol – ar godi arian. Bydd y gweithdy ymarferol a rhyngweithiol hwn yn rhoi’r hyder, y sgiliau a’r technegau i chi wneud ceisiadau perswadiol sy’n ysgogi pobl i weithredu. Dysgwch sut i baratoi’n effeithiol, deall cymhellion rhoddwyr, cyfathrebu’n hyderus a meithrin perthnasoedd hirdymor sy’n arwain at fuddsoddiad ystyrlon. Yn ddelfrydol ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol sy’n dymuno cryfhau eu gwaith codi arian dyngarol a’u perthynas â rhoddwyr mawr.

Arweinydd Cwrs:

James Clayton-Jones, Rheolwr Prosiect: Treftadaeth Ymlaen, C&B Cymru

Dyddiad & Lleoliad:

Cyflwynir ar Zoom

Dydd Iau 1 Hydref 2026, 10yb-12:30yp

I archebu lle ar y cwrs hwn, cwblhewch y ffurflen gyswllt isod.