Mynd i'r cynnwys

Broceriaeth

Cysylltu eich busnes â’r Partneriaid Celfyddydau cywir

Mae rhwydwaith ac arbenigedd unigryw A&B Cymru yn rhoi’r sefydliad mewn sefyllfa berffaith i ddarparu gwasanaeth broceriaeth hynod effeithiol sy’n cyflawni amcanion busnes â ffocws.

Mae broceriaeth yn cynnwys ein gwaith i ddod â phartneriaeth at ei gilydd, gan sicrhau bod y cydweddiad yn iawn ac anghenion wedi’u halinio’n berffaith.

Manteision Broceriaeth

Gweithio gyda’r celfyddydau yw’r ffordd ddelfrydol o gyflawni amcanion busnes craidd. Drwy froceriaeth, gall A&B Cymru helpu eich cwmni i:

  • Dangos ei ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol
  • Gosod ei frand yn y ffordd iawn i’r bobl iawn
  • Cyfathrebu negeseuon mewn ffyrdd ffres a chreadigol
  • Codi ei broffil a chysylltu ei hun â rhagoriaeth
  • Hyfforddi a datblygu staff mewn ffyrdd diddorol ac effeithiol

Y Broses

Mae A&B Cymru yn tynnu oddi ar y gwaith caib a rhaw, yr ansicrwydd a’r risg o gychwyn ar bartneriaeth gelfyddydol newydd trwy eich tywys trwy bob cam.

Yn fyr, rydym yn gwneud partneriaeth yn hawdd, yn effeithiol ac yn effeithlon.  Dyma sut mae’n gweithio:

Rydym yn dechrau gyda’ch briff
Rydym yn cwrdd â chi i ddeall eich amcanion, amserlen, cyllideb ac unrhyw baramedrau perthnasol eraill ac yna dylunio briff i’ch cymeradwyo.

Rydym yn dod o hyd i’r partneriaid cywir.

Rydym yn gwahodd aelodau celfyddydau a ddewiswyd yn ofalus i gyflwyno cynigion wedi’u teilwra sy’n ymateb yn benodol i ‘r briff.

Rydym yn curadu ac yn cyflwyno opsiynau.

 Mae A&B Cymru yn adolygu’r holl gynigion, gan sicrhau ansawdd ac aliniad, cyn cyflwyno rhestr fer o gyfleoedd partneriaeth i chi I’w hystyried.

Rydym yn cefnogi cyflawni

Ar ôl dewis partner, rydym yn parhau i gymryd rhan gyda helpu i lunio gweithgareddau, mireinio cynlluniau a sicrhau bod y bartneriaeth yn cyflawni’r union beth sydd ei angen arnoch.

Rydym yn helpu i gryfhau’r bartneriaeth

Lle bo hynny’n briodol, rydym yn annog y partner celfyddydol i wneud cais i CultureStep, ein rhaglen buddsoddi arian parod sy’n bodoli i gryfhau a gwella cydweithrediadau busnes a’r celfyddydau.

Gadewch i A&B Cymru ddod o hyd i’ch partner celfyddydau perffaith.

E-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.