Busnes
Gyrru Llwyddiant Busnes trwy Greadigrwydd
Mae rhwydwaith o bartneriaid busnes A&B Cymru ar draws Cymru gyfan.
O unig fasnachwyr i gorfforaethau rhyngwladol, mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda phob cwmni, gan eu helpu i oresgyn heriau a chyflawni uchelgeisiau trwy gydweithrediad celfyddydau wedi’u teilwra.
Mae rhwydwaith helaeth ac arbenigedd profedig A&B Cymru yn rhoi’r sefydliad mewn sefyllfa berffaith i helpu busnesau i fynd i’r afael ag amcanion sylfaenol mewn ffyrdd effeithiol a phellgyrhaeddol.
Helpu eich busnes i lwyddo
Gallai A&B Cymru helpu eich cwmni i gyflawni:
Marchnata a Negeseuon Creadigol
Lleoli eich brand yn y ffordd gywir, i’r bobl iawn, cysylltu eich cwmni â rhagoriaeth, codi proffil a chyfathrebu negeseuon allweddol mewn ffyrdd effeithiol a phellgyrhaeddol.
Gwerth Cymdeithasol Effeithiol
Dangos ymrwymiad eich busnes i fod yn gwmni a chyflogwr gwirioneddol gyfrifol, cymydog da yn y cymunedau rydych chi’n gweithredu ynddynt a lle mae eich staff yn byw.
Cymhelliant a Datblygiad Staff Effeithiol
Helpu’ch staff i feddwl yn fwy creadigol a chyfathrebu’n fwy effeithiol – gwella cymhelliant, ehangu persbectif a meithrin sgiliau.
Darganfyddwch fwy am sut y gallech ddod yn rhan o rwydwaith mwyaf creadigol Cymru
Llun: Feeding the Fish yng Ngwobrau C&B Cymru
Aelodaeth Busnes
Mae aelodau busnes C&B Cymru yn amrywio o fasnachwyr unigol i gorfforaethau rhyngwladol.
Marchnata a Negesu Creadigol
Mae C&B Cymru yn adnabod cyfleoedd ar gyfer partneriaeth gelfyddydol sy'n helpu ei aelodau busnes i leoli eu brandiau.
Ymgysylltiad Cymunedol Ystyrlon
Gweithio gyda’r celfyddydau yw’r ffordd ddelfrydol i fusnes ddangos ei fod yn gwmni a chyflogwr gwirioneddol gyfrifol.
Cymhelliant a Datblygiad Staff Effeithiol
Trwy ddarparu rhaglenni sy'n ymateb i anghenion hyfforddi presennol, mae C&B Cymru yn cryfhau rheolaeth celfyddydol, yn datblygu sgiliau ac yn cynorthwyo cynaliadwyedd mewn ffyrdd diriaethol a phellgyrhaeddol.