Rubicon Dance a Gemma Barnett, Blake Morgan
Y Sialens
Y Sefydliad Celfyddydol
Rubicon Dance
Yr Angen Datblygol
I ehangu arbenigedd busnes y Bwrdd, yn benodol i gynnwys Rheoli Newid, ac i ddatblygu rhwydwaith Rubicon o fewn y gymuned fusnes.
Yr Ymgynghorydd
Gemma Barnett, Rheolwr Datblygu Busnes yn Blake Morgan.
Yr Angen Datblygol
Wedi hyfforddi fel dawnsiwr, roedd Gemma am ddefnyddio ei phrofiad o’i gyrfa gorfforaethol i helpu’r sector celfyddydol, i gael mewnwelediad ar sut mae mudiad gwahanol yn gweithredu ac ennill profiad llywodraethu.
Y Canlyniadau
I Rubicon:
- Mae Gemma wedi defnyddio ei rhwydwaith i gyflwyno cynrychiolwyr Rubicon i nifer o lunwyr barn yn nigwyddiadau fel Clwb Brecwast Caerdydd, y mae hi’n helpu i’w drefnu.
- Mae Gemma hefyd yn arwain ar agweddau newid busnes strategaeth Rubicon, yn defnyddio ei phrofiad helaeth o uno a chaffael.
- Ymddiriedolwr ac Is-gadeirydd hynod o weithgar, sydd wedi helpu i symbylu gweddill y Bwrdd
I Gemma:
- Boddhad mawr o allu cynnig cymorth gwirioneddol ac amserol i Rubicon, a gweld effaith ei chyngor.
- Cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r mudiad lle’r oedd hi’n dawnsio pan oedd hi’n iau.
- Profiad ymarferol o lywodraethu a datblygu sgiliau dylanwadu a thrafod
Y Gymeradwyaeth
Mae sgiliau rhwydweithio a rheoli newid Gemma wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i Rubicon yn ystod y cyfnod hwn yn ein datblygiad, wrth inni roi ein strategaethau codi arian a rheoli newid ar waith. Mae hi’n wastad yn barod i dorchi’i llewys a helpu ac mae hi’n seinfwrdd defnyddiol iawn a ffynhonnell wych o gefnogaeth bersonol i mi. Mae gan Gemma egni diddiwedd ac mae hi newydd ymgymryd â rôl Is-gadeirydd fel rhan o gynllun olyniaeth ein Bwrdd.
Kathryn Williams, Rubicon Dance