Aaron & Partners LLP ac Opera Cenedlaethol Cymru
Y Sialens
- Cyflenwi raglen o ymgysylltu cymunedol yng ngogledd Cymru sy’n darparu cyfleoedd creadigol ar gyfer pobl o bob oed ac o bob cefndir.
- Gwireddu amcanion busnes allweddol ar gyfer Aaron & Partners, yn cynnwys proffil i’w gynulleidfaoedd targed yn y DU ac yn rhyngwladol; cyfleoedd lletygarwch ar gyfer cleientiaid a chleientiaid posibl yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru, a chyfleoedd i ymgysylltu gweithwyr.
Yr Ymateb
Rhoddodd Aaron & Partners gefnogaeth i Opera Cenedlaethol Cymru i gyflenwi’r Rhaglen Gogledd Cymru yn 2022. Nod y rhaglen oedd ymgysylltu cynifer o bobl â phosibl â’r perfformiadau ar brif lwyfan Venue Cymru a rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a chynulleidfaoedd sy’n cael eu tanwasanaethu – yn cynnwys pobl hŷn mewn cartrefi gofal, a rhai sy’n wael eu hiechyd – i ymgysylltu â’r celfyddydau a chael budd o’r profiad.
Roedd y prosiect hefyd wedi ymgysylltu â gweithwyr Aaron & Partners trwy ddarparu lletygarwch a buddion ymgysylltu drwy gydol y bartneriaeth.
Roedd buddsoddiad CultureStep wedi galluogi OCC/WNO i gynnig cyfle perfformio i ganwr ar ei raglen artistiaid ifanc, a galluogi Aaron & Partners i gyflwyno datganiad cerddorol o safon uchel ar gyfer ei gynhadledd ryngwladol, gan fod o fudd i’w weithwyr ac i weithwyr ei bartneriaid mewn cwmnïau cyfreithiol byd-eang.
Y Canlyniadau
Roedd 10,000 wedi mynychu perfformiadau Opera yn Venue Cymru.
Cafodd 1,500 o bobl fudd o’r cyngherddau ysgolion a’r cyngherddau Tonic ar gyfer pobl hŷn.
Ar sail wythnosol, cymerodd cyfartaledd o 30 o bobl ran yn yr Opera Ieuenctid.
Cafodd 20 o bobl fudd yn wythnosol o Lles, y rhaglen Covid Hir, gydag OCC/WNO.
Cymerodd 100 o bobl ran yn Blaze of Glory, y rhaglen opera gymunedol newydd.
Roedd 120 o gynrychiolwyr a gweithwyr [employees] wedi mynychu digwyddiad cynhadledd ryngwladol Aaron & Partners.
Y Gymeradwyaeth
Partneriaeth yn cefnogi ymgysylltu diwylliannol gyda chymunedau yng ngogledd Cymru, gan godi proffil OCC/WNO ac Aaron & Partners ac arddangos beth sydd gan y rhanbarth i’w gynnig o ran diwylliant ac fel canolfan busnes a thwristiaeth i gynulleidfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Alison Dunnett, Cyfarwyddwr Datblygu, Strategaeth a Chysylltiadau Allanol OCC/WNO