Mynd i'r cynnwys

Act Now Creative Training ac Déborah de Paola, Admiral Group

Y Sialens

Sefydliad y Celfyddydau

Act Now Creative Training

Yr Angen Datblygol

Sefydlwyd Act Now gan Adrienne O’Sullivan 15 mlynedd yn ôl. Trwy Banc Sgiliau, roedd hi am adfywio cynllun busnes y mudiad, ymchwilio dichonolrwydd cynnig hyfforddiant newydd a ffurfioli sut i leoli’r pecynnau newydd yn y farchnad.

Yr Ymgynghorydd

Déborah Reeve, Rheolwr Recriwtio Gweithredol Admiral Group

Yr Angen Datblygol

Roedd Déborah am gael profiad mewn sector gwahanol, datblygu ei sgiliau hyfforddi a datblygu ei rhwydwaith.

Y Canlyniadau

I Act Now Creative Training:

  • Cynllun busnes wedi’i adnewyddu a hynod o ddefnyddiol.
  • Prosesau mewnol gwell y gellir eu hatgynhyrchu ar draws cynigion cwrs cyfredol ac yn y dyfodol.
  • Datblygiad cwrs Hyfforddi Seiliedig ar y Celfyddydau, yn arwain at ffynonellau incwm newydd i’r mudiad

I Déborah:

  • Gwell hyder a rhwydweithiau.
  • Dealltwriaeth ddyfnach o weithrediad a heriau mudiad llai a phrofiad o weithio mewn sector gwahanol
  • Meddwl ehangach yn ymwneud â chynhwysiad ac amrywiaeth, wy’n cael eu trosglwyddo i’w gwaith o fewn Admiral

Y Gymeradwyaeth

Mae mewnwelediad Déborah wedi bod yn rhagorol yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae ei hyder a brwdfrydedd heintus a’i ffordd gefnogol wedi annog a galluogi’r ymchwil, datblygiad a’r peilot ar gyfer y cwrs cyffrous hwn. Byddai gwneud hyn ar ben ein hunain wedi bod yn frawychus ac, ar adegau, anorchfygol.

Adrienne O’Sullivan, Cyfarwyddydd, Act Now Creative Training

Mae Adrienne wedi bod yn ysbrydoliaeth anhygoel, fel artist llwyddiannus, angerddol. Rydw i wedi dysgu ganddi ar sawl lefel. Gweithio fel swyddog AD proffesiynol ar gyfer cwmni FTSE100, mae’r gwersi hyn wedi cael effaith ar y ffordd rydw i’n gweithio a’r penderfyniadau rydw i’n eu gwneud yn y busnes. Rydw i hefyd yn teimlo’n fwy hyderus i gamu i mewn i rolau Arwain. Galluogodd y bartneriaeth hon imi roi gwahanol fathau o dechnegau a meddwl strategaethol ar waith.

Déborah Reeve, Rheolwr Recriwtio Gweithredol Admiral Group