Admiral Group a Syrcas NoFit State
Y Sialens
Roedd Admiral yn dymuno darparu cyfleoedd cyfoethogi unigryw i’w staff wrth barhau â negeseua ac enw da’r cwmni am gefnogaeth a buddsoddiad yn ei gymuned leol.
Roedd NoFit State yn gobeithio darparu profiad trawsnewidiol i’r genhedlaeth nesaf o’i artistiaid syrcas talentog.
Yr Ymateb
Datblygwyd y bartneriaeth hirsefydlog rhwng Admiral a Syrcas NoFit State trwy fuddsoddiad CultureStep. Fe wnaeth y gefnogaeth ychwanegol alluogi comisiwn sioe stryd syrcas ieuenctid newydd i gael ei chyflwyno mewn digwyddiadau cymunedol, nifer o wyliau Cymru ac yn swyddfeydd y busnes.
Y Canlyniadau
Cyrhaeddodd y sioe gyfanswm cynulleidfa o 900 aelod o’r cyhoedd a staff Admiral, gan godi proffil y busnes fel un cyfrifol, yn fewnol ac mewn cymunedau ledled Cymru.
Roedd y comisiwn hefyd yn cynnig cyfle datblygu cyffrous i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid syrcas, wrth helpu NoFit State i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Y Gymeradwyaeth
Trwy’r comisiwn hwn mae’r nawdd a’r buddsoddiad arloesol nid yn unig wedi cynnig cyfle dysgu digymar ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid syrcas, ond mae hefyd wedi creu darn o waith sydd wedi agor cyfleoedd perfformio proffil uchel newydd ar eu cyfer, a chyfleoedd datblygu cynulleidfa newydd ar gyfer NoFit State.
Bethan Touhig-Gamble, Syrcas NoFit State
Roedd y prosiect hwn, gyda’r buddsoddiad o gronfa CultureStep, yn cynnig buddion unigryw a hollol ychwanegol i’r cytundeb nawdd hirsefydlog gyda NoFit State. Mae sylfaen y berthynas wastad wedi canolbwyntio’n gryf ar gyfoethogi staff Admiral. Cyflawnodd y prosiect hwn nid yn unig ar ffurf y perfformiadau cyhoeddus yn swyddfeydd Admiral, ond hefyd estynnodd y buddion i’r gymuned ehangach ac i gefnogi’r sector celfyddydau ieuenctid.
Emma Smallcombe, Admiral