Mynd i'r cynnwys
Mae grŵp o bobl o wahanol oedrannau’n cyrcydu y tu ôl i gamera i edrych drwy’r ffenestr, ar set cynhyrchiad It’s My Shout

Bad Wolf ac It’s My Shout Productions

Y Sialens

  • Ymgysylltu ag unigolion sy’n wynebu rhwystrau rhag cyfranogi mewn cymunedau a dangynrychiolir, gyda’r bwriad o gyfoethogi a chryfhau’r Diwydiant Teledu a Ffilm yng Nghymru.
  • Ymgysylltu unigolion niwroamrywiol â’r diwydiannau creadigol.
  • Datblygu llwybr i mewn i’r Diwydiant Teledu a Ffilm ar gyfer creadigwyr ifanc.

Yr Ymateb

Yn 2022, roedd y bartneriaeth rhwng Bad Wolf ac IMS yn dechrau ar ei phedwaredd flwyddyn. Trwy gefnogaeth y busnes, llwyddwyd i gynhyrchu dau floc o ddramâu byrion o safon diwydiant. Crëwyd y rhain mewn cydweithrediad â chymunedau mewn ardaloedd o Gymru sy’n gymdeithasol ddifreintiedig, lle mae unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o’r broses o ganlyniad i’r canfyddiad fod y gwaith o greu cynnwys yn cael ei roi yn nwylo pobl o gefndiroedd mwy breintiedig. Cafodd y ffilmiau a gynhyrchwyd yn sgil hyn eu darlledu ar BBC ac S4C.

Cefnogodd CultureStep y bartneriaeth trwy ariannu tri digwyddiad allgyrch a thalu costau teithio cyfranogwyr, gan ddileu rhwystrau rhag cymryd ran. Roedd hyn yn gwneud y cyfleoedd yn fwy hygyrch i rai mewn ardaloedd diarffordd/gwledig, yn ogystal â rhai ar y sbectrwm niwroamrywiol ac ag angen cymorth ychwanegol.

Y Canlyniadau

Cyrhaeddodd y prosiect dros 300 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru, yn cynnwys 30 o unigolion niwroamrywiol. Roedd 120 o’r cyfranogwyr, na fyddent fel arall wedi gallu ymgysylltu â’r cyfle, wedi manteisio ar gael cludiant yn rhad ac am ddim.

Mae dros un rhan o bump o’r cyfranogwyr wedi parhau i weithio yn y sector. Yn ogystal, mae nifer o’r lleill yn parhau i ddatblygu eu sgiliau drwy gyfrwng addysg bellach, addysg uwch a dysgu annibynnol, a bydd croeso iddynt uwchsgilio ar gynyrchiadau IMS yn y dyfodol.

Y Gymeradwyaeth

Mae Bad Wolf wedi cael budd o’r cysylltiad â’r gwaith allgyrch gwych a wneir gan It’s My Shout drwy gyfrwng y rhaglen sgrinio, cynhyrchu’r ffilmiau, eu gwaith gyda phartneriaid cymunedol, a chredydau darlledu. Roedd modd i ni hefyd wahodd ein staff i’r digwyddiadau sgrinio i astudio’r dalent newydd oedd yn gweithio ar y ffilmiau.

Hannah Raybould, Bad Wolf

Mae IMS a Bad Wolf yn rhannu’r un ethos o ran creu cyfleoedd i bobl ifanc/dibrofiad ledled Cymru, waeth pa amgylchiadau neu broblemau sy’n sefyll yn eu ffordd; trwy wneud hyn, felly, cyfoethogir y sector ag ymgysylltiad lleol cryfach a lleisiau newydd, talentog. Ystyrir fod ein gallu i gyrraedd dros 300 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru – llawer ohonynt heb unrhyw brofiad yn y diwydiant hwn, neu efallai heb erioed ystyried gyrfa yn y maes – yn un o’r pethau o 2022 rydym yn fwyaf balch ohonynt. Mae cefnogaeth Bad Wolf a CultureStep wedi galluogi IMS i wneud y gorau o’i botensial fel cynllun hyfforddi, ac mae cyfranogwyr a effeithiwyd gan y prosiect hwn wedi teimlo eu bod yn elwa drwy gael cyflogaeth yn y dyfodol, gweld eu gwaith mewn sgriniadau cymunedol/teledu/ar-lein, a chael gwahoddiad i fynychu seremoni wobrwyo 2023. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y byddem am iddo barhau.

Anna Arrieta, Rheolwr Prosiect, It’s My Shout Productions

Adborth gan rai oedd yn cymryd rhan:

‘Fe dreuliais i ychydig ddyddiau gwych fel hyfforddai arolygydd sgriptiau ar gynyrchiadau It’s My Shout. Fe ddysgais i lawer iawn, cwrdd â phobl hyfryd, a chael profiad gwerthfawr ar y set. Ro’n i wrth fy modd bod y cynhyrchiad, yn ogystal â rhai o’r cast a’r criw, yn ddwyieithog! Rhoddodd hyn gyfle i mi ymarfer fy Nghymraeg gan fy mod, yn y dyfodol, yn gobeithio gweithio ar brosiectau Cymraeg yn y diwydiant ffilm/teledu.’

‘Hwn oedd y tro cyntaf i mi hyfforddi fel arolygydd sgriptiau, ac roedd fy mentor yn ffantastig! Fe ddysgodd lawer iawn i mi mewn cyfnod byr, ac roedd hi’n gwbl broffesiynol a thrylwyr. Oherwydd hyn, rwy’n teimlo’n hyderus fod gen i ddigon o wybodaeth i fwrw ’mlaen i weithio yn y rôl hon. Byddwn wrth fy modd yn cael gweithio eto gyda thîm IMS, gan fod y profiad yn un mor werthfawr. Mae e wedi agor nifer o ddrysau i mi, ac rwy’n teimlo’n gyffrous ynghylch beth ddaw yn y dyfodol ym myd y sgrin.’

‘Roedd y profiad yn ardderchog a phopeth yn berffaith. Mae pob ffilm yn wahanol ac yn rhoi profiad unigryw bob tro. Mae hyd yn oed y cyfuniad o leoliadau yn y Cwm yn fanteisiol, gan fod ymweld â gwahanol lefydd diddorol yn brofiad grêt. Mae’n gwneud i chi sylweddoli gymaint o leoliadau gwych sydd gennym ar stepen ein drws.’

‘Credaf fy mod wedi dysgu llawer mwy o ’mhrofiad nag y byddwn fel arfer yn ei wneud yn y coleg. Ro’n i’n teimlo bod fy hyder a’m sgiliau wedi cael hwb, ac mae’r profiad hwn wedi fy ysbrydoli i fynd am yrfa yn y diwydiant creadigol, a chyfarwyddo’n benodol.’

‘Hwn oedd y tro cyntaf erioed i mi weithio ar gynhyrchu ffilm fer; roedd y criw i gyd yn groesawgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo fel rhan o’r tîm. Fe ges i weithio ar yr elfen greadigol, oedd yn rhoi cyfle i mi wneud defnydd llawn o ’nghreadigrwydd.’