Mynd i'r cynnwys

Bombastic Dance ac Ailsa Hawkins, Barclays Partner Finance

Yr Angen Datblygol

Roedd Ailsa am brofi gweithio mewn amgylchedd newydd, gyda mudiad llawer llai, er mwyn gwthio ei hunan, ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwell o’i sgiliau ei hunain a datblygu ei hyder.

Y Canlyniadau

I Bombastic Dance:

  • Gwella elfennau ariannol y cwmni, yn dilyn adolygiad o lyfrau cyfrifon, llif arian a chyllidebau blynyddol
  • Gwerthusiad ac arolwg newydd o weithrediadau ariannol a busnes Bombastic, gyda newidiadau awgrymedig priodol i faint a safle’r mudiad
  • Aelod bwrdd ymroddedig a deinamig sy’n cyfrannu yn ymarferol at drafodaethau a strategaethau am gynaladwyedd y mudiad

I Ailsa:

  • Profiad o sut mae mudiad sydd y tu allan i’r byd corfforaethol yn gweithredu, a dealltwriaeth ddofn o’r heriau mae’n eu hwynebu
  • Gwell gwerthfawrogiad o’r effaith gall y celfyddydau gael ar gymunedau y tu hwnt i ddarparu adloniant yn unig
  • Datblygu sgiliau arwain tîm a’i hagwedd tuag at gydweithio
  • Teimlad o gyfraniad a llwyddiant y tu hwnt i’w gwaith bob dydd
  • Mae bod yn rhan o fudiad wedi’i galluogi hi i brofi sut mae cyngor cyfreithiol / proffesiynol yn cael ei rhoi ar waith yn fewnol, sydd wedi helpu sut mae hi’n mynegi ei chyngor i’w cleientiaid

Y Gymeradwyaeth

Mae Ailsa yn cynnig cyngor doeth, craff a gwybodus. Mae ei diddordeb a’i chyfraniad at gyfeiriad cyffredinol y cwmni ar ffocws wedi cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar y bwrdd, a fydd yn parhau drwy gydol ei chyfnod gyda’r mudiad. Mae hi’n dod â chraffter busnes a gwerthusiad ariannol cryf a hefyd ymddiried cryf ym mhŵer y celfyddydau i hwyluso newid creadigol, ac yn seinfwrdd gwerthfawr iawn am ein cyfeiriad yn y dyfodol.

Sean Tuan John, Bombastic Dance 

Mae cael y cyfle i ddefnyddio’r sgiliau a’r profiad rydw i wedi ennill trwy gydol fy ngyrfa i helpu mudiad celfyddydol yn foddhaus iawn, ac rydw i’n gobeithio bydd fy nghysylltiad gyda Bombastic yn cyfrannu at ei lwyddiant parhaol. Weithiau gall materion ariannol fod yn frawychus, ond rydw i’n gobeithio, gyda fy nghyfraniad, bydd aelodau Bombastic i gyd yn dod yn fwy a mwy hyderus wrth drafod materion ariannol a’u bod nhw’n dod yn llai diflas ac efallai yn dod yn bleser hyd yn oed! Mae wir yn braf iawn i weithio gyda grŵp o bobl sydd â brwdfrydedd ac awch go iawn am eu gwaith, ac rydw i’n fwy ymwybodol o’r gwahaniaeth mae’n ei gwneud i dasg/prosiect os allwch chi ddangos cred, agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd i’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw.

Ailsa Hawkins, Barclays Partner Finance