Mynd i'r cynnwys
Person yn syllu ar bortread yn hongian ar wal oriel gelf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Engage Cymru

Y Sialens

  • Helpu pobl o gymunedau amrywiol i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd.
  • Codi ymwybyddiaeth o amrywiaeth y GIG yng Nghymru.
  • Cynyddu deilliannau iechyd ar gyfer y bobl ifanc sy’n ymgysylltu â phrosiectau creadigol.

Yr Ymateb

Gan weithio’n agos gyda’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig, aeth Engage Cymru ac Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ati ar y cyd i ddyfeisio rhaglen Gwobr y Celfyddydau achrededig bwrpasol wedi’i hanelu at bobl ifanc Ddu ac o Leiafrifoedd Ethnig i’w helpu i ennill sgiliau a hyder ac i adnabod llwybrau dilyniant i mewn i’r diwydiannau creadigol. Trwy weithio gyda Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, ac Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Llandochau, lledaenwyd gwybodaeth drwy Engage a’r rhwydweithiau partner. Roedd y digwyddiadau dathlu’n taflu golau ar siwrneiau a chyflawniadau’r bobl ifanc.

Y Canlyniadau

Roedd Change Makers yn brosiect hynod lwyddiannus, o ran cyrraedd ac ymgysylltu â phobl ifanc ac artistiaid o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac eiriol dros y newidiadau strwythurol a systemig y mae angen i’r sector creadigol fynd i’r afael â hwy.

Elfen bwysicaf y prosiect oedd rhoi cyfleoedd i bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig ennill cymhwyster, adeiladu rhwydweithiau a chysylltiadau gyda chanolfannau yng Nghymru, adeiladu ystod eang o sgiliau creadigol a dysgu am lwybrau at yrfa yn y sector creadigol. Bu’r cyfranogwyr yn ystyried y rhwystrau maent yn eu hwynebu ac yn awgrymu newidiadau y dylai’r sector eu hystyried wrth symud ymlaen. Enillodd pob un o’r cyfranogwyr Wobr Efydd y Celfyddydau.

Diolch i fuddsoddiad CultureStep a chefnogaeth y partneriaid busnes, cyflogodd y prosiect 20 o bobl ifanc yn uniongyrchol – 6 artist ac 8 canolfan a staff cyfranogi. Yn ogystal, roedd 32 o gynrychiolwyr wedi mynychu digwyddiad hyfforddi Change Makers. Llwyddodd pob un o’r bobl ifanc i ennill Gwobr Efydd y Celfyddydau. Mae’r ffilm werthuso wedi ei rhannu’n eang gan Engage a phartneriaid y prosiect, gyda chysylltiad ardderchog drwy’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd y ffilmiau’n parhau i fod yn waddol allweddol i’r prosiect.

Ffilm Hyrwyddo Change Makers

Ffilm Werthuso Change Makers

Y Gymeradwyaeth

Mae’r enw da a’r cyfleoedd i ymgysylltu drwy’r bartneriaeth hon yn fuddion pwysig i’r Elusen Iechyd. Mae’r rhain wedi cynyddu a gwella, ac wedi codi proffil yr elusen drwy sylw a gafwyd ar y credydau ffilm, a mynychu’r digwyddiad hyfforddi ‘Change Makers’. Disgwyliwn y gwireddir rhagor o fuddion cymunedol yn nhermau ymwybyddiaeth a gwybodaeth o’r rhwystrau a wynebir gan artistiaid a phobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, y gobeithiwn fydd yn gallu ymgysylltu â’n rhaglenni Iechyd a’r Celfyddydau yn y dyfodol.

Simone Joslyn, Cardiff and Vale Health Charity

Mae bod yn gysylltiedig ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, sydd ag enw ardderchog am eu hymarfer ymgysylltu cynhwysol a theg ledled rhanbarth y Bwrdd Iechyd, wedi helpu i godi proffil Engage Cymru. Drwy gyfrwng y prosiect rydym wedi gwneud cysylltiadau ardderchog gyda Race Council Cymru, Bywydau Creadigol, Ffilm Cymru a Bectu; yn ogystal, cyfrannodd Charley Sealy – Ymgynghorydd Polisi Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru – i’n digwyddiad hyfforddi. Mae Engage wedi gallu cynnig buddion cymunedol pellach drwy gyfeirio at brentisiaeth greadigol Prawf y Dyfodol A&B Cymru ar gyfer y ddau leoliad a phobl ifanc; mae pobl ifanc wedi cael cyfleoedd i weithio â thâl yn Glan yr Afon, ac i wirfoddoli gyda Ffotogallery, ac maent wedi adeiladu rhwydweithiau angenrheidiol gan helpu Engage Cymru i gyrraedd ei nodau ar gyfer y prosiect.

Angela Rogers, Engage Cymru