Mynd i'r cynnwys

Cardiff Fringe Theatre Festival a Hannah Dixon, Golley Slater

Y Sialens

Y Sefydliad Celfyddydol

Cardiff Fringe Theatre Festival

Yr Angen Datblygol

Dysgodd Alice Downing, Cyfarwyddydd Marchnata CFTF, ei gwybodaeth farchnata i gyd yn y gwaith. Trwy’r Banc Sgiliau, roedd Alice am weithio gyda gweithiwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata proffesiynol i adolygu ei phrosesau cyfredol ac i ddatblygu strategaeth farchnata effeithiol i gynyddu nifer yr ymwelwyr, ac i roi ar waith templed ar gyfer marchnata’r ŵyl am y blynyddoedd sydd i ddod.

Yr Ymgynghorydd

Hannah Dixon, Uwch Rheolwr Cyfrif yn Golley Slater

Yr Angen Datblygol

Roedd Hannah am ddefnyddio ei gwybodaeth a sgiliau mewn sector newydd, datblygu ei sgiliau dirprwyo, cael profiad o gymryd rhan mewn prosiect yn ei gyfanrwydd a gweld effaith uniongyrchol ei chyfraniad.

Y Canlyniadau

I Cardiff Fringe Theatre Festival:

  • Cynnydd mewn nifer yr ymwelwyr ac incwm
  • Gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd ar gael i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac i fesur effaith gweithgareddau marchnata
  • Prosesau marchnata gwell y gellir eu hatgynhyrchu ar gyfer gwyliau yn y dyfodol

I Hannah:

  • Profiad o weithio mewn sector gwahanol a gweld effaith uniongyrchol ei chyngor
  • Mwy o hyder yn ei gallu ei hunan
  • Ffordd fwy creadigol o drin strategaethau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus

Y Gymeradwyaeth

Dydw i ddim yn credu byddem wedi gwerthu’r un nifer o docynnau a’r llynedd heb sôn am werthu mwy heb help Hannah! O ganlyniad i weithio gyda hi, rydw i nawr yn meddwl mwy am y gynulleidfa, sy’n hanfodol o ran gwerthiannau a chynaladwyedd parhaol yr ŵyl. Mae gan Hannah cyfoeth o wybodaeth ac mae hi wedi cyflwyno dulliau a ffyrdd gwahanol o farchnata, sy’n golygu galla i fod yn fwy cynhyrchiol gyda fy amser.

Alice Downing, Cardiff Fringe Theatre Festival

Mae’r lleoliad hwn wir wedi datblygu fy sgiliau ymgynghori a dirprwyo ac wedi darparu hyder yn fy ngalluoedd – heb gyfarwyddydd neu dîm i ddilysu fy mhenderfyniadau, roed rhaid imi ymddiried yn fy ngreddf. Roedd gweithio o fewn amser a gyda chyllideb gyfyngedig wedi fy helpu i fod yn fwy creadigol gyda thactegau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

Hannah Dixon, Golley Slater