Mynd i'r cynnwys
Darn o bapur gwyn ar gefndir pren. Wedi’u gludo i’r papur mae toriadau papur newydd ar hap yn darlunio’r brawddegau canlynol – ‘Girls redefined feminism into star shaped love’; ‘Girls who want more from their world’; ‘To begin again together’.

Cartrefi Conwy a Theatr Clwyd

Y Sialens

  • Ymgysylltu â’r cymunedau y mae’r busnes yn gweithredu ynddynt.
  • Meithrin ymddiriedaeth ac adeiladu perthnasoedd positif, gan ddarparu cyfle i glywed barn a sylwadau ei denantiaid iau.
  • Creu cyfleoedd diwylliannol ar gyfer pawb, a chefnogi iechyd a lles pobl drwy gyfrwng y celfyddydau.

Yr Ymateb

Bu Cartrefi Conwy’n cydweithredu gyda Theatr Clwyd i gynllunio Roots/Gwreiddiau, prosiect dwys dros 10 wythnos, i edrych ar effaith y byd ar ei gymunedau a’r straeon unigol o’u mewn. Gan roi ei gymunedau wrth galon ei flaenoriaethau, cynigiodd gyfleoedd ym meysydd technoleg, dawns a drama i rai sydd ar gyrion cymdeithas. Drwy gyfrwng y prosiect cafwyd cyfle i adlewyrchu ar ymateb unigolion a’r gymuned i’r heriau a wynebwyd yn ystod y pandemig, gan ofyn am farn tenantiaid ar bynciau’n ymwneud â thai, megis digartrefedd, tlodi a newid hinsawdd, a thrafod eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Nod y prosiect oedd ymgysylltu ag unigolion rhwng 17 a 30 mlwydd oed. Cyfrannodd CultureStep tuag at gostau cyffredinol y prosiect.

Y Canlyniadau

Cafodd y prosiect effaith bositif ar bawb oedd yn rhan ohono, gan gynnwys cael effaith drawsnewidiol ar fywyd un cyfranogwr a fynychodd pob sesiwn a theithio’n wythnosol i Theatr Clwyd i gymryd rhan mewn gweithdai ar gyfer pobl ifanc a chanddynt anghenion ychwanegol.
Roedd y ddau barti wedi elwa o’r dysgu, yn nhermau dulliau effeithiol o gyfathrebu, bylchau yn y ddarpariaeth, a’r angen am ymrwymiad am dymor hirach i waith cyd-greu gyda chymunedau. Yn ogystal, sefydlodd Cartrefi Conwy gysylltiadau positif gyda nifer o sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda’r grŵp oedran hwn, a fydd o gymorth i ddatblygu prosiectau a pherthnasoedd pellach yn y dyfodol.

Y Gymeradwyaeth

Drwy’r prosiect hwn, amlygwyd pa mor ddylanwadol y gall y celfyddydau fod yn achos unigolyn, a pham rydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar sicrhau bod gennym gyfleoedd parhaus i ymgysylltu a gosod llwybrau strategol. Mae Cartrefi Conwy (yn ogystal â Theatr Clwyd) wedi cael budd o’r prosiect hwn yn nhermau dysgu; dysgu bod gwaith cyd-greu gyda chymunedau yn anodd a bod angen ymrwymiad dros dymor hirach, a dysgu pa ddulliau cyfathrebu sy’n fwyaf effeithiol i gyrraedd tenantiaid ac ymgysylltu â hwy. Drwy’r prosiect hwn mae Cartrefi Conwy hefyd wedi gallu dangos i’w denantiaid ei fod yn buddsoddi amser ac adnoddau wrth roi cynnig ar ddulliau newydd i gyrraedd at a gwrando ar farn tenantiaid rhwng 18 a 30 oed sydd, yn y gorffennol, wedi bod yn fwy anodd cysylltu â hwy.

Owen Veldhuizen, Cartrefi Conwy.

Mae’r prosiect hwn wedi rhoi cyfle i ni ddysgu mewn mwy o fanylder am yr edefyn hwn o waith allgyrch yn y gymuned, yn enwedig ar lefel llawr gwlad. Yn ogystal, rydym wedi cael mewnwelediad i gymunedau eraill y tu allan i sir y Fflint, a deall lle mae yna fylchau yn y ddarpariaeth a’r potensial i ni ffocysu ein gwaith a’n partneriaethau yn y dyfodol. Roedd ein hymgysylltiad â phrif gyfranogwr y prosiect yn fuddiol i ni. O ganlyniad i’r prosiect, rydym wedi gallu nodi llwybr fydd yn ei galluogi hi i barhau ei pherthynas â Theatr Clwyd, gan ei helpu i gynyddu ei hunan-barch, archwilio ei hymdeimlad ohoni’i hunan, a gweithio ar wella ei hiechyd meddwl drwy gyfrwng y celfyddydau.

Janine Dwan, Theatr Clwyd.