Cartrefi Conwy ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y Sialens
- I ymgysylltu â phobl sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, yn gwella eu hiechyd a lles trwy’r celfyddydau
- I sefydlu canolbwynt yn y gymuned a fydd yn dod â phobl ynghyd ac yn annog sgwrs
- I greu etifeddiaeth gelfyddydol gynaliadwy a fydd yn cysylltu grwpiau cymunedol dros y tymor hir
Yr Ymateb
Noddodd Cartrefi Conwy Eisteddfod 2019 yn Llanrwst, yn darparu tocynnau am ddim i denantiaid ac yn llwyfannu amrywiaeth o weithgareddau cymunedol. Sicrhaodd y nawdd gyllid ychwanegol gan CultureStep C&B Cymru a galluogodd Cadair Sgwrs, prosiect celfyddydau gweledol rhyng-genedlaethol i grwpiau lleol.
Y Canlyniadau
I Cadair Sgwrs, cyflwynodd artist Catrin Williams weithdai creadigol dwy awr dros gyfnod o chwe wythnos. Rhannodd 18 o gyfranogwyr o amryw o wahanol gefndiroedd yr hyn a oedd yn bwysig iddyn nhw drwy gyfrwng celf weledol. Aeth y sesiynau i’r afael â themâu fel allgau cymdeithasol ac ynysu gwledig, ond hefyd yn hybu hapusrwydd a chyfeillgarwch. Roedd y prosiect yn cynnwys pobl hŷn gyda dementia, aelodau’r Men’s Shed lleol, a disgyblion Ysgol Bro Gwydir, yn dod â Chartrefi Conwy mewn cysylltiad uniongyrchol gydag ystod o grwpiau.
Arweiniodd y gweithdai at gadair addurnol a arddangoswyd yn yr Eisteddfod. Gwahoddwyd ymwelwyr i eistedd, hel atgofion a thrafod ‘Beth sy’n Bwysig’ iddynt. Ymgysylltodd cannoedd o bobl gyda’r prosiect yn yr ŵyl, a oedd yn galluogi Cartrefi Conwy i sefydlu cysylltiadau newydd yn yr ardal. Darparodd cyfweliad BBC Wales lwyfan i siarad am y celfyddydau, ymgysylltiad cymunedol a phwysigrwydd cynhwysiad cymdeithasol.
Mae ffilm o’r prosiect wedi’i ei rhannu’n eang, ac ymddangoswyd y gadair mewn digwyddiadau cymunedol eraill. Mewn Diwrnod Pobl Hŷn, helpodd Cartrefi Conwy ymgysylltu â thenantiaid ar gynllun busnes newydd.
Y Gymeradwyaeth
Ethos sylfaenol Cartrefi Conwy yw ‘i greu cymunedau i fod yn falch ohonynt’. Rydyn ni’n credu bod Cadair Sgwrs wedi cryfhau cymunedau drwy adeiladu rhwydweithiau cymunedol a galluogi i bobl o wahanol gefndiroedd ac oedrannau, na fyddai’n cael y cyfle i gwrdd, dod ynghyd a ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch fel arall.
Nerys Veldhuizen, Swyddog Ymrwymiad Pobl Hŷn, Cartrefi Conwy
Roedd cydweithio gyda phartner fel Cartrefi Conwy yn dangos gall adnoddau ac arbenigedd gael eu rhannu i fod o fudd i gymunedau o fewn ardal yr ŵyl. Fel digwyddiad peripatetig, mae cwblhau prosiectau fel hyn yn gwella enw da’r Eisteddfod fel partner proffesiynol i weithredu ar lefel lleol a chenedlaethol.
Alwyn Roberts, Pennaeth Gweithredu Cymunedol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru