Celfyddydau Anabledd Cymru a Jo Taylor, Azets
Y Sialens
Sefydliad y Celfyddydol – Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC)
Yr Her
Recriwtio arbenigwr Cyllid i’r Bwrdd i gymryd rôl Trysorydd.
Y Ymgynghorydd – Jo Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt, Azets
Yr Angen Datblygol
Yn ei gwaith yn Azets, mae Jo yn adrodd i Fyrddau cleientiaid. Roedd hi eisiau profi gwaith mewnol elusen er mwyn eu deall yn well a’r heriau sy’n eu hwynebu. Roedd Jo hefyd yn gobeithio rhannu ei gwybodaeth am y sector a helpu’r sefydliad i gymhwyso arfer gorau i’w lywodraethu mewnol.
Y Canlyniadau
Ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC):
- Ar ôl cymryd rôl Trysorydd, roedd Jo yn ffynhonnell ddibynadwy o gyngor arbenigol ar gyfrifon – yn chwarterol ac ar ddiwedd y flwyddyn.
- Roedd Jo yn ganolog i adolygu a datblygu polisi, gan sicrhau bod DAC yn cael ei lywodraethu’n gyfrifol, gan gadw at reoliadau ac argymhellion y Comisiwn Elusennau
- Arweiniodd Jo DAC drwy’r broses o gofrestru fel CIO a recriwtio Cyfarwyddwr newydd
- Roedd Jo yn Ymddiriedolwr a Thrysorydd rhagweithiol ac ymroddedig, yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad arbenigol
Ar gyfer Jo:
- Datblygodd Jo ei sgiliau dylanwadu a chyfathrebu o ganlyniad i weithio fel rhan o grŵp
- Cafodd brofiad ymarferol o faterion gweithredol megis AD
- Mae Jo wedi datblygu ei dealltwriaeth o lywodraethu, sydd wedi gwella ei gallu i ddelio â chleientiaid elusen yn uniongyrchol
- Mae’n cael llawer o foddhad o weld gweithrediad a chanlyniadau cadarnhaol ei chyngor
Y Gymeradwyaeth
Rydym yn hynod ddiolchgar bod Jo yn rhoi ei hamser mor hael. Mae ganddi ffordd dawel a chefnogol; yn gwbl ddibynadwy ac yn amhrisiadwy fel Ymddiriedolwr ac fel cyflogwr staff. Mae hi’n wybodus iawn am faterion trydydd sector ac mae ei chyngor a’i chymorth gwybodus yn ystod cyfnod anodd o newid sefydliadol wedi bod yn gwbl amhrisiadwy, gan roi sicrwydd i Ymddiriedolwyr eraill, staff a phrif gyllidwyr. Mae hi’n Ymddiriedolwr rhagorol. Aled Rhys-Jones, Cadeirydd, Celfyddydau Anabledd Cymru
Mae bod yn Ymddiriedolwr Celfyddydau Anabledd Cymru wedi rhoi persbectif mewnol i mi ar waith elusen a Bwrdd Ymddiriedolwyr, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn fy rôl. Rwyf wedi magu hyder ac wedi datblygu fy sgiliau dylanwadu o ganlyniad. Mae wedi bod yn foddhaol iawn cymhwyso fy ngwybodaeth trydydd sector mewn ffordd ymarferol a diriaethol iawn i gynorthwyo’r sefydliad. Jo Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt, Azets