Celfyddydau Anabledd Cymru a Jo Taylor, Baldwins
Y Sialens
Y Sefydliad Celfyddydol
Celfyddydau Anabledd Cymru
Yr Angen Datblygol
Recriwtio arbenigwr Cyllid i’r Bwrdd, gyda’r bwriad o ymgymryd â rôl y Trysorydd.
Yr Ymgynghorydd
Jo Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt yn Azets.
Yr Angen Datblygol
Roedd Jo yn dymuno ennill persbectif gwahanol. Yn ei rôl mae hi’n aml yn adrodd i Fyrddau cleientiaid ac eisiau profi gwaith mewnol elusen er mwyn eu eu deall yn well a’r heriau sy’n eu hwynebu. Roedd hi hefyd yn gobeithio rhannu gwybodaeth ei sector a helpu’r sefydliad i gymhwyso arfer gorau i’w lywodraethu mewnol.
Y Canlyniadau
I Gelfyddydau Anabledd Cymru (CAC):
- Ar ôl ymgymryd â rôl y Trysorydd, mae Jo yn ffynhonnell ddibynadwy o gyngor arbenigol ar gyfrifon – bob chwarter a diwedd y flwyddyn
- Mae Jo yn ganolog i adolygu a datblygu polisi, gan sicrhau bod CAC yn cael ei lywodraethu’n gyfrifol, gan gadw at reoliadau ac argymhellion y Comisiwn Elusennau
- Arweiniodd Jo CAC trwy’r broses o gofrestru fel CIO, a recriwtio Cyfarwyddwr newydd
- Ymddiriedolwr a Thrysorydd rhagweithiol ac ymroddedig, sy’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad arbenigol
I Jo:
- Datblygu sgiliau dylanwadu a chyfathrebu o ganlyniad i weithio fel rhan o grŵp ar y cyd
- Profiad ymarferol o faterion gweithredol mewn sefydliad, fel AD, na fyddai’n ei gael yn ei swydd feunyddiol
- Datblygu dealltwriaeth o lywodraethu sydd wedi gwella ei gallu i ddelio â chleientiaid elusennol yn uniongyrchol
Y Gymeradwyaeth
Rydym yn hynod ddiolchgar bod Jo yn rhoi ei hamser mor hael. Mae ganddi ddull digynnwrf a chefnogol; yn hollol ddibynadwy ac yn amhrisiadwy fel Ymddiriedolwr ac fel cyflogwr Staff. Mae hi’n wybodus iawn am faterion y trydydd sector ac mae ei chyngor a’i chefnogaeth wybodus yn ystod cyfnod anodd o newid sefydliadol wedi bod yn gwbl amhrisiadwy ac wedi rhoi sicrwydd i Ymddiriedolwyr eraill, staff a chyllidwyr mawr. Mae hi’n Ymddiriedolwr rhagorol.
Aled Rhys-Jones, Gelfyddydau Anabledd Cymru
Mae bod yn ymddiriedolwr Disability Arts Cymru wedi rhoi persbectif mewnol i mi ar waith elusen a bwrdd ymddiriedolwyr, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn fy rôl. Rwyf wedi magu hyder ac wedi datblygu fy sgiliau dylanwadu o ganlyniad, ac mae wedi bod yn foddhaol iawn defnyddio fy ngwybodaeth trydydd sector mewn ffordd ymarferol a diriaethol iawn i gynorthwyo’r sefydliad.
Jo Taylor, Azets