Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Giovanni Basiletti, Burges Salmon LLP
Y Sialens
Roedd CDCCymru am sefydlu diwylliant o roi ymhlith ei aelodau a chefnogwyr. Fel unig swyddog codi arian llawn amser CDCCymru, roed Rebecca Hobbs, Swyddog Datblygu, am ddatblygu ei dealltwriaeth am Roddion gan Unigolion a datgloi potensial Lifft, cynllun aelodaeth y sefydliad, a oedd wedi colli rhai o’i fomentwm. Hefyd, roedd hi am gael hyfforddiant mewn codi arian digidol a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn achub y blaen mewn rhedeg ymgyrchoedd i gefnogi’r math yma o waith.
Yr Ymateb
Rhoddodd arian gan Prosper y cyfle i Rebecca i ymweld â phrif leoliadau taith y cwmni, mynychu dwy gynhadledd Y Sefydliad Codi Arian ac ymweliad i gwmni dawns yn Leeds. Rhoddodd y rhain fewnwelediad newydd mewn i dueddiadau cyfredol rhoddion gan unigolion yn enwedig mewn perthynas â llwyfannau digidol. Roedd Rebecca hefyd yn gallu mynychu Cynhadledd Ewropeaidd Tessitura, lle bu’n cwrdd â chwmnïau dawns teithiol o ledled y DU, i rannu cyngor ac ymarfer gorau.
Drwy Prosper, ariannodd C&B Cymru; fideograffydd i greu ffilmiau cefnogol, sgriniau digidol wedi’u targedu ar gyfer Lleoliadau sy’n Flaenoriaethau, ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol a deunyddiau marchnata i hybu “Lifft”.
Trefnodd C&B Cymru i Emma Cooke, arbenigwr mewn cynnwys cyfryngau cymdeithasol o Golley Slater, i fentora Rebecca i roi’r ffordd o weithio gyda chanolbwynt digidol newydd hwn ar waith.
Hefyd cafodd Rebecca gyngor gan dîm Tessitura i’w helpu datgloi data am gynulleidfa CDCCymru oedd yn bodoli yn barod ac felly yn gallu paratoi rhestr o bobl i gysylltu â nhw er mwyn ymgysylltu â’r cynllun aelodaeth.
Y Canlyniadau
Nododd CDCCymru gynnydd o 122% mewn rhoddion gan unigolion o gymharu’r a’r flwyddyn gynt. Yn nhermau rhoi diwylliant o roi ar waith, daeth 60% o Fwrdd CDCCymru yn aelodau Lifft a dangoswyd ffigurau aelodaeth cynnydd amlwg.
Y Gymeradwyaeth
“Roedd derbyn arian gan Prosper C&B Cymru wir wedi fy helpu i greu ffocws newydd a datblygu fy sgiliau rhoddion gan unigolion. Fel arfer rydw i’n gweithio i gyllidau tynn, felly mae wedi bod yn wych gallu archwilio ffyrdd newydd a chreadigol o hybu rhoddion gan unigolion drwy lwyfannau digidol. Mae wedi rhoi bywyd newydd i’n cynllun rhoddion gan unigolion, ac wedi helpu sefydlu ffordd o godi arian a marchnata mwy cydlynol.” Rebecca Hobbs, Swyddog Datblygu, CDCCymru