Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y Sialens
- Hywyddo mater newid hinsawdd a gwastraffu bwyd mewn cyd-destun Cymreig
- Dysgu trwy gydweithredu gyda chymunedau Cymraeg eu hiaith a chymunedau di-Gymraeg
- Hyrwyddo deialog rhwng cymunedau lleol sy’n tyfu bwyd, a’r sector diwylliannol.
Yr Ymateb
Aeth y partneriaid ati i ddatblygu Gwledda, prosiect oedd yn defnyddio technegau creadigol i roi amlygrwydd i gynhyrchu bwyd yng Ngheredigion. Gwahoddwyd arbenigwyr i ymgysylltu â rhai oedd yn tyfu bwyd yn y gymuned leol, gan eu haddysgu am faterion amgylcheddol o gwmpas cynhyrchu bwyd. Rhoddodd hyn gyfle i drafod syniadau mewn modd creadigol, gan rymuso cymunedau i ddod yn fwy gwyrdd yn y tymor hir, ac ailsefydlu hyder mewn rhyngweithio cymdeithasol yn dilyn y pandemig. Trefnwyd rhaglen o weithdai cymunedol ar gyfer pob oedran, gydag artistiaid, cerddorion a storïwyr yn cymryd rhan. Roedd hyn yn cynnig cyfle creadigol i’r gymuned rannu eu straeon, cynnig eu gweledigaeth, a datblygu eitemau a pherfformiadau arbennig ar gyfer digwyddiad arddangos yn yr Eisteddfod.
Y Canlyniadau
Roedd Gwledda yn cyflogi artistiaid i ysbrydoli cymunedau ledled Ceredigion oedd yn tyfu bwyd i fod yn greadigol trwy rannu straeon, a chyfansoddi barddoniaeth a chaneuon. Crëwyd blanced bicnic anferth i gipio’r naratif, tra’n dathlu bwyd, cynnyrch lleol a diwylliant, ac edrych ar gyfrifoldebau amgylcheddol.
Gan weithio gyda phum grŵp cymunedol ledled Ceredigion, llwyddodd y rhaglen i gyrraedd 100 o bobl ar draws pob grŵp oedran, a gwahoddwyd hwy i gymryd rhan yn yr Eisteddfod.
Roedd y prosiect wedi cwrdd â’r disgwyliadau artistig, gyda grwpiau cymunedol yn ffynnu ac yn creu perthnasoedd cryf a chreadigol gyda’r artistiaid oedd yn cymryd rhan.
Cefnogodd CultureStep y prosiect trwy ariannu’r hwylusydd gweithdai ac artistiaid llawrydd.
Y Gymeradwyaeth
Mae’r Eisteddfod wedi ymrwymo i wneud y digwyddiad yn fwy cynaliadwy, gan edrych ar ddulliau o leihau’r effaith amgylcheddol a chwarae rhan werthfawr ac ysbrydoledig wrth lunio dyfodol mwy gwyrdd. Roeddem yn awyddus i ddod â’n cynulleidfa ar y daith, a defnyddio’r celfyddydau fel arf pwerus i addysgu ac ysbrydoli newid. Roedd ‘Gwledda’, gyda’i neges amgylcheddol gref, wedi ein helpu gyda’r nod yma. Cafodd cynulleidfaoedd a chyfranogwyr fudd o gael eu haddysgu am effaith gwastraffu bwyd a newid hinsawdd tra hefyd yn mwynhau’r celfyddydau. Roedd y cyfleoedd am ymgysylltu creadigol ac artistig hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y rhai oedd yn cymryd rhan; roedd hyn yn wych i’w weld, a chredwn ei fod yn amlwg yn y fideo a grëwyd gan y prosiect.
Elen Elis, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
I Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd y prosiect yn cefnogi ei nod o reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, a chymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau mewn modd cynaliadwy. Roedd y prosiect hefyd wedi galluogi’r holl bartneriaid i hyrwyddo dealltwriaeth o’r ‘wyddoniaeth’ sy’n tanategu’r argyfwng hinsawdd mewn cyd-destun Cymreig, a dysgu o’r profiadau creadigol a’r profiadau byw a ddeilliodd o gydweithrediad gyda chymunedau Cymraeg a di-Gymraeg.
Joseph Roberts, Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r prosiect hwn wedi dod â nifer o fanteision yn ei sgil i PCDDS, drwy gefnogi prif ŵyl ddiwylliannol Cymru yn un o’i raglenni allgymorth, a chryfhau’r bartneriaeth tymor-hir rhwng partneriaid lleol, Tir Glas a’r Eisteddfod; roedd y prosiect yn cefnogi nodau Tir Glas i wella lles Llanbedr Pont Steffan a’r cyffiniau yn economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, cyfrannu mewn modd adeiladol i ail-ddychmygu a chyd-greu Cymru’r dyfodol gan sefydlu rhwydweithiau lleol/sirol yn enw’r Ganolfan, hyrwyddo cydweithredu a chyd-gyfranogi ym maes bwyd, twristiaeth wledig, a menter, grymuso’r gymuned leol i gymryd perchnogaeth o’r weledigaeth a chyfrannu at ei datblygiad, cefnogi’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol lle mae ganddi gyfle i ddatblygu a ffynnu, a dathlu’r ‘hen ffordd Gymreig o fyw’, ei threftadaeth a’i diwylliant.
Gwilym Dyfri Jones, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant