Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CCHA) a Syrcas NoFit State (NFS)
Y Sialens
- Gwella darpariaethau diwyllianol a chymdeithasol mewn ardal ddifreintiedig
- Darparu gweithgareddau diwylliannol sy’n rhad ac am ddim, yn gynhwysol a hygyrch, ar gyfer tenantiad CCHA a thrigolion lleol
- Cynyddu cydlyniad ac ymysylltiad cymunedol
- Cryfhau partneriaeth gyda golwg ar gydweithredu hir-dymor
Yr Ymateb
Fel partneriaeth newydd a ffurfiwyd yn 2022, ymunodd y gymdeithas tai gyda NoFit State i gyflwyno Gŵyl Stryd Clifton, sef dathliad o gymuned Adamsdown. Darparodd NFS ddiwrnod o weithdai, perfformiadau, cerddoriaeth a gorymdaith, gan ddenu cynulleidfa o 2,000 o bobl.
Aeth CultureStep ati i ymestyn y bartneriaeth newydd hon trwy ariannu 16 o ddosbarthiadau syrcas cymunedol dros gyfnod o 20 wythnos.
Y Canlyniadau
Cynlluniwyd y dosbarthiadau syrcas mewn ar y cyd â’r gymuned leol, gan ddarparu gweithgareddau hygyrch, llawn hwyl, ar gyfer pob grŵp oedran yn yr ardal. Cynlluniwyd digwyddiadau a gweithdai eraill hefyd, yn cynnwys dathliad o oleuni, sef Park Light, a oedd yn ddigwyddiad mynediad agored yn yr awyr iach.
Ymgysylltodd prosiect CultureStep â chyfanswm o 306 o unigolion o’r ardal leol, gyda 56 o’r rhain yn denantiaid i CCHA.
Mae’r ddau bartner wedi ymrwymo i gydweithredu’n hir-dymor i harneisio budd ymgysylltiad â’r celfyddydau, harddu’r ardal leol, gwella cydlyniad cymunedol a chyfoethogi bywydau preswylwyr lleol.
Y Gymeradwyaeth
Mae’r prosiect hwn wedi helpu i adeiladu enw da CCHA ymhlith ein cymuned a’n rhanddeiliaid, a chyflawni ein haddewidion. Roedd y sesiynau syrcas creadigol rhad ac am ddim yn cynnig gweithgareddau lleol ystyrlon, ac yn dangos ein bod yn wir yn eu gwerthfawrogi ac wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer ein preswylwyr. Mae wedi gwella ein delwedd, ac adeiladu ymddiriedaeth gyda’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda hwy. Gyda buddsoddiad cymharol fychan, mae hyn wedi sicrhau gweithgareddau sy’n rhoi gwerth ardderchog am arian na fyddem wedi gallu eu cynnig ar ein pennau ein hunain.
Trwy greu partneriaeth gyda NFS, rydym wedi gallu cael mynediad at rwydwaith ehangach o bartneriaid yn y gymuned leol, gan hyrwyddo ein gwasanaethau i grŵp mwy amrywiol o bobl, ac ychwanegu cleientiaid newydd at ein cwsmeriaid sylfaenol. Mae ein cydweithredu wedi arwain at well ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael i’n staff a’n tenantiaid, yn cynnwys dosbarthiadau a digwyddiadau NFS, ynghyd â gweithgareddau gan sefydliadau partner megis Green Squirrel ac Oasis.
Rydym wedi gweld gwelliant mawr yn ein profiad o weithio gyda sefydliad celfyddydol, gan ein helpu i feddwl yn wahanol a rhoi ystyriaeth greadigol i’n dulliau strategol ein hunain. Mae ein cydweithredu yn cyflenwi ein nod o gyfoethogi bywydau a thrawsnewid cymdogaethau yn fannau ble mae pobl yn awyddus i fyw, gweithio a ffynnu.
Sue Anscombe, Rheolwr Cymunedau ac Adfywiad, CCHA
Rydym wedi ehangu ein hymgysylltiad, a chyrraedd pobl a chymunedau newydd, trwy weithio mewn partneriaeth â CCHA. Roedd y prosiect hwn wedi helpu i gryfhau ein partneriaeth, a bellach rydym yn cydweithio’n rheolaidd, yn cynnwys ar brosiectau eraill megis ein Milltir Sgwâr – prosiect datblygu cymunedol newydd, aml-bartner. Mae CCHA wedi dod yn bartner dibynadwy sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr, ac yn gydweithredwr y gallwn droi ato i helpu gydag arwyddo, hyrwyddo a rhwydweithio ein gweithgareddau. Cawn fudd hefyd o’u gwybodaeth helaeth o gymdogaethau a chymunedau lleol drwy Reolwyr Cymdogaethau CCHA.
Rydym hefyd bellach yn fwy adnabyddus yn yr ardal leol fel sefydliad celfyddydol a chanddo rywbeth i’w gynnig sy’n berthnasol a hygyrch i bobl leol. Yn ogystal, wedi i ni ennill cefnogaeth busnes tebyg i CCHA, a’u cymorth a’u hymddiredaeth ynom ni, mae hynny’n hwyluso’n trafodaethau gyda chorfforaethau a busnesau eraill. Mae hyn yn fuddiol o ran ein henw da yn ogystal ag yn ariannol, ac mae wedi cyfrannu at berswadio partneriaid ychwanegol i ymuno â’n prosiect Milltir Sgwâr.
Elena Schmitz, Rheolwr Datblygu, Syrcas NoFit State