Mynd i'r cynnwys
Delwedd wedi'i docio o boster digwyddiad yn darlunio'r geiriau BEACONS BASECAMP, TAPE, BAE COLWYN 02/12/2022 11.30 – 18.30. GWEITHDAI DJ A SGWENNU CANEUON/’ and ‘DJ AND SONGWRITTING WORKSHOPS’. Mae logo ar ochr chwith pellaf y llun - GIGS Y GAEAF / WINTER SAINS.

Distyllfa Penderyn a Creu Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Y Sialens

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand
  • Cryfhau cysylltiadau diwylliannol a chymunedol
  • Bod yn weithredol trwy gefnogi uchelgais Strategaeth Ddiwylliannol Creu Conwy, a’r weledigaeth Diwylliant yn creu sbardun ar gyfer twf economaidd, lles a chysylltiad.

Yr Ymateb

Penderyn oedd noddwyr cynllun peilot Gŵyl Seiniau’r Gaeaf – gŵyl gerddoriaeth llawr gwlad oedd yn rhaglen flaenllaw i lansio’r strategaeth. Ei nod oedd ymgysylltu, egnïo ac uwchsgilio’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, cynhyrchwyr a thechnegwyr yn y diwydiant, gan ddod â phobl ifanc o gefndiroedd cymdeithasol ddifreintiedig at ei gilydd trwy eu cariad at gerddoriaeth.

Er bod Penderyn yn frand sydd wedi ei sefydlu ers tro byd, roedd yn gymharol newydd i dref Llandudno. Roedd y bartneriaeth yn cynnig cyfle delfrydol i gefnogi pobl ifanc greadigol, hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r brand, a chryfhau cysylltiadau lleol.

Ariannwyd elfen fentora’r prosiect trwy fuddsoddiad gan CultureStep.

Y Canlyniadau

Roedd 35 o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed o gefndiroedd difreintiedig wedi cymryd rhan yn Niwrnod Mentora Seiniau’r Gaeaf Basecamp y Bannau a gweithgareddau grŵp ffocws. Roedd hyn yn cynnwys gweithdai ac iddynt ffocws ar gyfansoddi caneuon, gwaith DJ a sain byw, yn ogystal â phanelau o’r diwydiant cerddoriaeth, perfformiad byw gan fand o Gonwy, a chyfleoedd i rwydweithio.

Roedd y gweithdai yn helpu’r cyfranogwyr i ennill sgiliau ymarferol a chreadigol newydd, cynyddu eu hyder, a’u hannog i gael teimlad o falchder a pherthyn.

Roedd y prosiect cyfan wedi helpu cyfranogwyr i symud yn agosach at hyfforddiant pellach a chyflogaeth, ac i gryfhau gallu creadigol ac artistig, ac uchelgais, y genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig.

Roedd yr elfen fentora hefyd yn cynnig cyfleoedd wedi eu comisiynu, gan arwain at gydweithrediad newydd rhwng Bannau Cymru a TAPE Cerdd a Ffilm Cymunedol, nad oeddynt cyn hynny wedi gweithio mewn partneriaeth.

Roedd 980 wedi trefnu i fynychu digwyddiadau a gweithdai eraill Seiniau’r Gaeaf, ac roedd cyrhaeddiad y cyfryngau cymdeithasol drwy Conwyculture dros 39,000. Roedd yna hefyd saith o ddigwyddiadau gyda mynediad am ddim ledled y wlad, gan greu cyfleoedd ar gyfer artistiaid a diwydiannau eraill, yn ogystal â chefnogi canolfannau lleol. Roedd gweithgaredd ‘ymylol’ yn hyrwyddo ac arddangos digwyddiadau cerddorol oedd yn cael eu cynnal mewn canolfannau ar lawr gwlad.
Darparodd Distyllfa Penderyn gefnlen ysblennydd ar gyfer ffilmio dau berfformiad byw gan artistiaid lleol talentog.

Gigs y Gaeaf /Winter Sounds, Conwy 2022 – YouTube

Winter Sounds x Beacons Cymru Basecamp @ TAPE (vimeo.com)

Rosa Lavenne Live at Penderyn as part of Winter Sounds https://vimeo.com/775103401/3ebc7326c8

M Yesakon live at Penderyn https://vimeo.com/775103479/6cc11fd3e3

Y Gymeradwyaeth

Mae Penderyn bob amser wedi cefnogi gwahanol brosiectau celfyddydol, ac mae hyn yn gweddu’n berffaith i’r nod o gefnogi pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig. Maen nhw’n deall yr effaith y gall y celfyddydau eu cael ar y cymunedau. Roedd y bartneriaeth a’r cysylltiadau rhwng Penderyn a CBSC yn fuddiol i’r ddau sefydliad fel ei gilydd, ac mae hynny’n parhau i fod yn wir. Darparodd y prosiect Seiniau’r Gaeaf gyfle i’r ddau sefydliad adeiladu perthnasoedd newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Darparodd y ddistyllfa gefnlen ysblennydd ar gyfer perfformiadau gan ddau artist lleol talentog, a chafodd dros 30 o bobl ifanc fudd o fynychu’r diwrnod mentora.

Helen Goddard, Creu Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Roedd cyswllt a mynediad am ddim i ddigwyddiadau, a chyfleoedd llwyddiannus ledled Conwy, wedi cryfhau cysylltiadau’r busnes nid yn unig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ond hefyd gyda’r sector celfyddydol yn ei grynswth, gan fod y bartneriaeth Creu Conwy yn cynnwys aelodau lleol allweddol a sefydliadau diwylliannol cenedlaethol – yn eu plith Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw, Parc Cenedlaethol Eryri, a Disability Arts Cymru.

Dafydd Pesic-Smith, Rheolwr Safle Llandudno, Distyllfa Penderyn