Mynd i'r cynnwys

Harmoni Cymru a Barclays Partner Finance

Y Sialens

Y Sefydliad Celfyddydol

Harmoni Cymru

Yr Angen Datblygol

Roedd Vicky, Cadeirydd Harmoni Cymru, am greu cynllun strategol i’r mudiad, ac i ddatblygu ei dealltwriaeth ei hunan o gynllunio a datblygu busnes.

Yr Ymgynghorydd

Robin Tovey, Uwch Rheolwr Strategaeth a Mewnwelediad, Barclays Partner Finance.

Yr Angen Datblygol

Roedd Robin am ddefnyddio ei brofiad mewn diwydiant newydd i brofi hyblygrwydd ei wybodaeth ac i helpu mudiad bach i dyfu. Hefyd roedd am ddatblygu ei sgiliau hyfforddi a mentora ymhellach.

Y Canlyniadau

I Vicky:

  • Lot fwy hyderus yn ei rôl fel Cadeirydd, ac ystod o offer strategol i’w galluogi hi i barhau i gynllunio ar gyfer dyfodol y mudiad.
  • Dull mwy proffesiynol o gyflwyno gwaith y mudiad a thrafod gyda noddwyr yn arwain at lwyddiannau nawdd allweddol.
  • Gwell ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau ynghlwm â chynlluniau ar gyfer twf busnes, yn y tymor byr a’r tymor hir.
  • Cynllun busnes cynhwysfawr i Harmoni Cymru a strategaeth glir ar gyfer twf

I Robin:

  • Mwy o hyder yn ei sgiliau hyfforddi.
  • Gwell mewnwelediad i’r heriau mae mudiadau celfyddydol bach yn eu hwynebu a gwell dealltwriaeth am sut gall ei sgiliau gael eu defnyddio mewn sector gwahanol.
  • Boddhad personol o helpu Vicky i ddatblygu mewn hyder ac o gyfrannu at gynaladwyedd Harmoni Cymru.

Y Gymeradwyaeth

Mae mewnwelediad busnes Robin wedi bod yn amhrisiadwy yn fy helpu i ystyried gwerth ariannol y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig, a sut i farchnata ein gwasanaethau i’n noddwyr. Mae hyn wedi arwain at adnewyddu prosiect y tu hwnt i’w cyfnod peilot gan ein prif noddwr. Mae Robin hefyd wedi datblygu fy ymwybyddiaeth o’r agweddau pwysig sydd angen cael eu hystyried wrth ddatblygu’r busnes ac yn gallu siarad am agweddau’r busnes ac offer busnes mewn ffordd sy’n hawdd i’w deall. Erbyn diwedd ein cyfnod mentora, roedden ni wedi creu cynllun busnes a gweledigaeth lot fwy clir am y dyfodol, a ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Robin.

Vicky Guise

Mae gweithio gyda Vicky wedi bod yn braf iawn, mae wedi bod yn foddhaus iawn i’w gweld hi’n defnyddio’r offer roedden ni wedi eu trafod i gefnogi gweithgareddau Harmoni mor gyflym a medrus. Roedd gweithio gyda Vicky yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau hyfforddi fy hun ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi eraill fel Vicky.

Robin Tovey