Hern a Crabtree a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Y Sialens
- I hyrwyddo neges gadarnhaol am Hern & Crabtree i’r gymuned leol.
- I gael amlygiad brand am bartneriaeth Hern & Crabtree gyda CBCDC.
- I gefnogi addysg pobl ifanc yn Ne Cymru.
Yr Ymateb
Noddodd Hern & Crabtree weithdai yn y Coleg i blant o ddwy ysgol yng Ngogledd Caerdydd, yn eu cyflwyno nhw i gerddoriaeth fyw o ansawdd uchel ac i’w conservatoire cenedlaethol.
Buddsoddodd C&B Cymru yn y prosiect drwy ei rhaglen CultureStep, yn talu am daith o’r gweithdai i ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig o fewn taith awr o Gaerdydd.
Y Canlyniadau
Cyflwynodd CBCDC weithdai i blant o ddwy ysgol yng Nghaerdydd, yn ogystal â disgyblion o Wasanaeth Cerddoriaeth Gwent, yn llwyddiannus. Arweiniwyd y sesiynau gan Bennaeth Pres y Coleg, Roger Argente, wedi’i gefnogi gan fyfyrwyr o’r cyrsiau pres ac offerynnau taro. Yn ogystal â’r gweithdai, cafodd y plant daith o’r Coleg ac yn mynychu cyngerdd gan fyfyrwyr.
Gyda buddsoddiad CultureStep, cynigodd pum grŵp ensemble weithdai On the Move i 43 o ysgolion. Ymwelodd y daith, a aeth o Bontypridd i Gas-gwent, â lot mwy o ysgolion na’r targed gwreiddiol o bum ysgol, gan ddarparu cymorth ac adnodd sydd mawr eu hangen i ddarparu’r cwricwlwm cerddoriaeth.
Trwy’r prosiect, ymgysylltodd cyfanswm o 10,085 o blant o ystod o gefndiroedd gyda cherddoriaeth o ansawdd uchel. Cefnogodd Hern & Crabtree addysg pobl ifanc yn Ne Cymru yn uniongyrchol, gan rannu neges gadarnhaol am ei waith i’r gymuned leol. Darparodd y cynulleidfaoedd mawr a’r sylw eang amlygiad brand gwerthfawr i’r Gwerthwyr Tai.
O ganlyniad i’r berthynas gref a ddaeth o’r nawdd, cynhaliodd CBCDC ddigwyddiad dethol i fwy na 300 o westeion Hern & Crabtree. Perfformiodd myfyrwyr Christmas on Broadway, cyn derbynfa diodydd i ddathlu’r bartneriaeth. Helpodd hyn i gadw ac adeiladu sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon, yn galluogi mwy o sylw i’r brand, a hybu ei enw fel busnes sy’n gofalu am y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Hefyd roedd yn gyfle i CBCDC i godi arian a datblygu cynulleidfaoedd newydd.
Y Gymeradwyaeth
Roedd gan y bartneriaeth lawer o fuddion i CBCDC. Roddodd y cyfle i’r Coleg i adeiladu perthynas gydag ysgolion lleol ac i gysylltu â’r rheini nad oedden nhw wedi cymryd rhan yn y rhaglen allgymorth yn barod. Rydyn ni wedi gallu bwydo’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o’r prosiect i mewn i’n strategaeth allgymorth newydd, sy’n llywio’r ffordd byddwn ni’n gweithio gydag ysgolion yn y dyfodol.
Gwenan Jenkins-Jones, Swyddog Datblygu, Stiwardiaeth a Digwyddiadau, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru