
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (CVUHB) a Hijinx
Y Sialens
Roedd CVUHB am rymuso staff gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd angen arnyn nhw i ddarparu gofal teg o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y person i bobl ag anableddau dysgu.
Roedd Hijinx am ymestyn ei enw da fel cynhyrchydd hyfforddiant unigryw o’r radd flaenaf mewn cysylltiad ag anableddau dysgu yn y sector iechyd. Roedd y Cwmni hefyd am ddarparu cyfleoedd gwaith cyflogedig i’w actorion.
Yr Ymateb
Yn 2019, gyda chyllid gan y bwrdd iechyd a buddsoddiad ychwanegol gan CultureStep C&B Cymru, cynhyrchodd Hijinx bedair ffilm hyfforddi diddorol er mwyn gwella sgiliau staff CVUHB mewn cyfathrebu gyda chleifion sy’n agored i niwed. Roedd y ffilmiau byr yn cynnwys actorion Hijinx ac fe’u defnyddiwyd i ychwanegu at becynnau hyfforddi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac Anabledd Dysgu’r bwrdd iechyd. Ymgysylltodd CVUHB yn uniongyrchol â Hyrwyddwyr ag Anableddau Dysgu i fod yn gynulleidfaoedd prawf a defnyddiwyd eu hadborth i ffurfio fformat terfynol y ffilmiau.
Y Canlyniadau
Y Gymeradwyaeth