Hijinx a James Downes, Tŷ’r Cwmnïau
Y Sialens
Y Sefydliad Celfyddydol
Hijinx
Yr Angen Datblygol
I ehangu arbenigedd y Bwrdd i gynnwys Digidol yn ystod cyfnod o dwf cyflym.
Yr Ymgynghorydd
James Downes, Pennaeth Cynnyrch yn Nhŷ’r Cwmnïau
Yr Angen Datblygol
Roedd James am ymuno â Bwrdd sefydliad celfyddydol i ennill profiad llywodraethu yn y sector nid-er-elw, ffyrdd gwahanol o weithio ac i gyfrannu at sector y celfyddydau.
Y Canlyniadau
I Hijinx:
- Cyngor a chymorth arbenigol yn ystod adolygiad digidol, gweithredu fel brocer i sicrhau perthnasau gyda darparwyr digidol a sicrhau bod y technolegau newydd werth yr arian ac yn addas i’w pwrpas.
- Darparu presenoldeb ar lawr gwlad yng ngorllewin Cymru, i fonitro Academi’r Dwyrain Hijinx wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin.
- Creu strwythur rheoli newydd – Ystâd Tai Hijinx – a hwyluso Diwrnod i Ffwrdd i hyfforddi staff er mwyn gallu rhoi’r strwythur mewn gweithrediad.
I James:
- Lot mawr o hwyl a’r cyfle i chwarae rhan mewn rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol.
- Safbwynt newydd o’r hyn gall grŵp ymroddedig o bobl gydag adnoddau ariannol cyfyngedig ei gyflawni.
- Gwell gwybodaeth am ffyrdd o weithio o fewn sector gwahanol.
- Gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd cynhwysiant ac amrywiaeth
Y Gymeradwyaeth
Mae’r buddion personol yn anfesuradwy, ac rydw i wedi mwynhau cwmni rhai o’r bobl fwyaf creadigol, angerddol ac ysbrydoledig i mi eu cyfarfod erioed. Ar lefel broffesiynol, mae hyn wedi bod yn fuddiol iawn; mae gen i well dealltwriaeth o bwysigrwydd cynhwysiant ac amrywiaeth nid oherwydd mai dyma’r peth iawn i’w wneud – mae’n bwysig oherwydd mae pethau gwell yn digwydd i bawb pan mae pawb yn cael eu cynnwys.
James Downes, Pennaeth Cynnyrch yn Nhŷ’r Cwmnïau