Mynd i'r cynnwys

Impelo ac Elwyn Davies, Spindogs

Yr Angen Datblygol

Roedd Elwyn am ymgysylltu â mudiad a oedd wedi’i leoli ym Mhowys ar ôl symud i’r ardal. Hefyd roedd am rannu ei brofiad o lywodraethu a dysgu am sut mae mudiadau yn ardaloedd gwledig yn cael eu rheoli.

Y Canlyniadau

I Impelo:

  • Bwydodd profiad marchnata ar-lein Elwyn i mewn i’r wefan newydd ac i greu siop ar-lein sydd wedi dod yn ffrwd refeniw ychwanegol.
  • Dealltwriaeth ddofn wedi’i sefydlu o fewn y Bwrdd a thîm y staff o reolaeth gwefannau, defnydd pecynnau ar-lein i wella effeithiolrwydd a chyfathrebu, brandio a marchnata.
  • Mewnbwn allweddol wrth greu polisi, dull gweithredu, meddalwedd, rheolaeth ariannol, materion AD yn ystod y cyfnod trawsnewid, yn arbed y gwariant a fyddai wedi cael ei wario ar arbenigedd allanol.
  • Cyflwyniadau i gysylltiadau, partneriaid a chydweithredwyr newydd yn yr ardal leol

I Elwyn:

  • Mewnwelediad hanfodol i’r gwahaniaethau rhwng mudiadau gweledig a dinesig wrth iddo sefydlu ei fusnes ei hunan.
  • Mae’r cysylltiad gydag Impelo wedi galluogi Elwyn i gael mynediad at, a datblygu rhwydwaith leol ar gyfer ei fusnes.
  • Gwell ddealltwriaeth o dirlun Canolbarth Cymru, ac ymdeimlad o falchder mewn helpu diogelu cyfleoedd celfyddydol yn yr ardal.
  • Boddhad a chymhelliad diolch i angerdd a brwdfrydedd staff Impelo

Y Gymeradwyaeth

Roedd profiadau Elwyn o sefydlu ei fusnesau ei hun yn hanfodol i lwyddiant ein 18 mis cyntaf fel elusen, ac yn bendant mae wedi arbed ffioedd uchel ymgynghorwyr! Mae Elwyn yn ein hannog ni i gyd i fod yn fentrus ac i edrych tuag at y dyfodol. Mae ganddo fe egni rhagorol sy’n cyfuno uchelgais a gweledigaeth gyda hawddgarwch. Wrth helpu’r tîm i osod y sylfeini cryf hyn, mae Elwyn wedi ein galluogi ni i hedfan i’n dyfodol, yn barod i gwrdd â’r heriau o gyflawni ein gweledigaeth i gael mwy o bobl i ddawnsio.

Amanda Griffkin, Impelo

Un o fy mhryderon wrth ail-leoli oedd dod yn hunanfodlon heb y pwysau ac atebolrwydd casgliadol sy’n dod o amgylchedd Bwrdd. Mae Bwrdd deinamig ac amrywiol gyda ni ac ynghyd ag Amanda, maen nhw’n gweithio fel seinfwrdd i mi na fyddwn i’n cael fel arall fel masnachwr unigol. Mewn gair, mae’r strategaeth uchelgeisiol rydyn ni wedi rhoi ar waith yn Impelo wedi lleihau’r pryderon hyn ac yn cynnig saib ysgogol i ffwrdd o fy ngwaith dydd-i-ddydd yn Pixelhaze.

Elwyn Davies, Spindogs