Mynd i'r cynnwys
Grŵp o berfformwyr ar lwyfan mewn eglwys gadeiriol o flaen cynulleidfa fawr. Mae llawer o resi o fasau aur yn hongian ar uchder y nenfwd ar draws tu fewn yr eglwys gadeiriol.

Jones Bros Civil Engineering UK a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

Y Sialens

  • Arddangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yng ngogledd Cymru.
  • Cefnogi a datblygu gwerthfawrogiad a mwynhad o berfformiadau byw i groestoriad mor eang â phosibl o’r gymuned yng ngogledd Cymru.
  • Darparu cyfle i alluogi perfformwyr ifanc, talentog, i berfformio’n fyw.

Yr Ymateb

Fel rhan o ddathliadau 50fed Pen Blwydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, noddodd Jones Bros gomisiwn ar gyfer Opera Gymunedol newydd, ddwyieithog, sef Gelert. Roedd cefnogaeth y busnes hefyd wedi galluogi dau berfformiad o’r opera un-act 45-munud hon yn adrodd hanes y Tywysog Llywelyn a’i gi ffyddlon, Gelert.

Corws cymunedol Lleisiau Gogledd-ddwyrain Cymru, sydd a’i aelodau’n byw mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru, oedd yn cynrychioli lleisiau trigolion y dref a’r blaidd.

Cynrychiolwyd llais Gelert gan Gôr Cytgan Clwyd – côr plant o ardal Rhuthun – a Chôr Ieuenctid Sir y Fflint. Cyfeiliwyd iddynt gan gerddorion Sinfonia Gogledd-ddwyrain Cymru  ac unawdwyr lleol.

Noddodd CultureStep berfformiadau matinee a fin nos o Gelert, yn ogystal â dehongliad IAP/BSL mewn dau berfformiad.

Y Canlyniadau

Llwyddodd y prosiect i gyrraedd cyfran fawr o ddemograffig y gymuned leol, ac roedd pawb oedd ynghlwm ag ef yn cymryd rhan lawn yn y dathliadau 50fed Pen Blwydd. Cyrhaeddodd yr opera gynulleidfa o 500 ac ymgysylltu â 135 o berfformwyr o’r gymuned leol.

Roedd pawb a gymerodd ran yn y prosiect wedi cael hwb i’w lles emosiynol a meddyliol  a theimlad o gyflawniad, hyder a balchder o ganlyniad i fod yn rhan o brosiect cymunedol dathliadol.

Roedd y prosiect cynhwysol hwn wedi galluogi Jones Bros i gael effaith bositif ar y gymuned leol. Cafodd yr ŵyl fudd o gryfhau ei hymgysylltiad â phobl ledled Gogledd Cymru, dyrchafu ei henw da, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Y Gymeradwyaeth

Fel cwmni, rydym yn awyddus i ddarparu etifeddiaeth barhaol mewn cymunedau sy’n agos at ein safleoedd gwaith, ac yn yr achos hwn rydym yn falch iawn o gael ein henwi fel cyd-gomisynydd yr Opera Gymunedol ‘Gelert’, a gyhoeddwyd gan gwmni Novello & Co Ltd ac a fydd ar gael i lawer o bobl ei mwynhau yn y dyfodol, fel perfformwyr ac fel cynulleidfaoedd. Byddai Jones Bros wrth eu bodd yn gweithio eto gyda GGRGC, a byddant yn cadw mewn cysylltiad i gefnogi’r digwyddiad yn y dyfodol. Rydyn ni fel cwmni’n cael boddhad o’r cyfle i gefnogi prosiectau lleol lle bynnag a phryd bynnag ag y bo modd. Mae’r cyfleoedd a ddarperir gan yr ŵyl gerdd hon yn cyd-fynd yn agos â’r hyn rydyn ni yn Jones Bros yn ceisio ei wneud yn nhermau cael pobl ifanc i gymryd rhan a chael effaith bositif ar y gymuned leol drwy nifer o wahanol sectorau, yn cynnwys y celfyddydau a hamdden.

Lynne Williams, Jones Bros Civil Engineering UK.

Bu’n brofiad gwirioneddol werthfawr i gydweithio i ddatblygu’r bartneriaeth hon, a sylweddoli’r pwysigrwydd mae Jones Bros yn ei roi ar gyfranogiad y genhedlaeth iau yn y celfyddydau, yn ogystal â phrosiectau cynhwysol sy’n estyn allan i’r gymuned. Mae ein partneriaeth yn y prosiect yn dangos llawer o feddwl o flaen llaw, arloesedd, ac ymrwymiad. Mae GGRGC yn wirioneddol werthfawrogol o gefnogaeth Jones Bros i’n dathliadau hanner can mlynedd, a byddem wrth ein bodd yn parhau â’n partneriaeth tuag at waith cymunedol cynhwysol. Mae prosiectau cymunedol ac ymgysylltiad pobl ifanc, fel ei gilydd, yn hanfodol i’n datblygiad yn y dyfodol. Felly, wrth i ni edrych ymlaen, byddwn yn cynllunio a datblygu prosiectau pellach fydd yn cynnig cyfleoedd gwych am ymgysylltiad a chyfranogiad i lawer. Roedd Gelert yn brosiect cwbl arbennig i ddathlu ein carreg filltir bwysig gyda chymunedau lleol gogledd Cymru.

Caroline Thomas, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru