Mynd i'r cynnwys

Theatr na nÓg a Kate Fisher, Hospital Innovations

Y Sialens

Sefydliad y Celfyddydau: Theatr na nÓg

Wedi’i gwreiddio yn y Cymoedd Cymreig, mae Theatr na nÓg ar genhadaeth i danio dychymyg y genedl. Mae’r cwmni’n credu yng ngrym theatr drawsnewidiol i ysbrydoli a chyfoethogi bywydau’r rhai sy’n ei brofi. Mae Theatr na nÓg yn creu gwaith gwreiddiol sy’n cysylltu’n wirioneddol, gan sicrhau perthnasedd a hygyrchedd i bawb.

Yr Her

Diffyg arbenigedd mewn AD ac arferion busnes oherwydd bod un o aelodau allweddol y Bwrdd yn ymddeol.

Y Ymgynghorydd: Kate Fisher, Rheolwr Gweithrediadau, Hospital Innovations

Yr Angen Datblygu

Roedd Kate yn dymuno ymuno â Bwrdd i hybu ei datblygiad proffesiynol. Ar ôl gweithio yn Hospital Innovations am 10 mlynedd, roedd hi’n awyddus i brofi sut mae sefydliad arall yn gweithredu heb adael y rôl a’r cwmni y mae’n ei garu. Darparodd Theatr na nÓg y ​​cyfle delfrydol, gan roi profiad arweinyddiaeth uwch amhrisiadwy i Kate a fyddai’n cynorthwyo ei huchelgeisiau gyrfa hirdymor.

Y Canlyniadau

Ar gyfer Theatr na nÓg:

  • Darparwyd cyngor ac arbenigedd hanfodol wrth recriwtio Rheolwr Cyffredinol newydd.
  • Cefnogodd Kate aelodau’r Bwrdd i ailstrwythuro polisïau tâl a gweithredu adolygiad cyflog.
  • Arweiniodd Kate y gwaith o roi archwiliad sgiliau’r Bwrdd ar waith, sydd wedi cryfhau llywodraethu’r sefydliad ac wedi cynorthwyo ei uchelgais i fod yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau y mae’n gweithio gyda nhw.
  • Yn 2023, penodwyd Kate yn Is-Gadeirydd Theatr na nÓg.

I Kate:

  • Rhoddwyd cyfle i Kate ddefnyddio ei sgiliau trosglwyddadwy mewn sefydliad gwahanol.
  • Cafodd brofiad gwerthfawr o wneud penderfyniadau lefel uchel mewn rôl uwch fel Ymddiriedolwr.
  • Mae ei hyder i rannu ei barn a meddwl yn greadigol wedi cynyddu’n aruthrol.
  • Mae Kate wedi defnyddio’r hyn a ddysgodd gan Theatr na nÓg yn ei rôl bresennol, gan amlygu budd y Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol i’r ddwy ochr.

Y Gymeradwyaeth

Mae Kate wedi ymgolli yn gyflym iawn i redeg Theatr na nÓg. Mae ei synnwyr digrifwch da a’i natur hawddgar yn bendant wedi dod â chwa o awyr iach i’r Bwrdd a’r sefydliad. Mae ei hymagwedd bragmatig wedi cynorthwyo i ddod â ffyrdd newydd o weithio a datblygu prosesau fel recriwtio a pholisi cyflog. Mae ei phroffesiynoldeb a’i hymroddiad i’r dasg wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar sut mae’r cwmni’n cyflwyno’i hun ac yn rheoli ei Adnoddau Dynol. Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig, Theatr na nÓg

Yn broffesiynol rydw i wedi ennill llawer trwy’r bartneriaeth hon; Rwyf wedi gallu defnyddio sgiliau trosglwyddadwy mewn sector gwahanol iawn i’r un yr wyf yn gweithio ynddo – mae hyn wedi rhoi llawer iawn o hyder i mi. Mae’r bartneriaeth wedi fy annog i leisio fy marn ac wedi fy annog i feddwl yn fwy creadigol. Kate Fisher, Rheolwr Gweithrediadau, Hospital Innovations