Mynd i'r cynnwys

Kate Fisher a Theatr na nÓg

Y Sialens

Banc Byrddau

Y Sefydliad Celfyddydol: Theatr na nÓg

Mae Theatr na nÓg, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yng nghymoedd Cymru, yn credu yn y pŵer sydd mewn drama drawsnewidiol i ysbrydoli a chyfoethogi bywydau’r rhai sy’n cael profiad ohono. Mae’r cwmni’n creu theatr wreiddiol sy’n gwneud cysylltiadau dilys, gan sicrhau perthnasedd a hygyrchedd i bawb. Mae Theatr na nÓg yn ffynnu ar ddod â straeon dyheadol o gymeriadau Cymreig sy’n cyflawni pethau rhyfeddol yn fyw.

Y Sialens

Cael mynediad at arbenigedd Adnoddau Dynol ac arfer busnes yn dilyn ymddeoliad aelod allweddol o’r Bwrdd.

Yr Ymgynghorydd: Kate Fisher, Arloesi mewn Ysbytai

Ymunodd Kate â Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau i ymestyn ei datblygiad proffesiynol. Roedd hi wedi gweithio gyda Arloesi mewn Ysbytai ers 10 mlynedd ac yn awyddus i ehangu ei phrofiad heb orfod gadael y swydd a’r cwmni mae hi wrth ei bodd yn gweithio iddyn nhw. Rhoddodd Theatr na nÓg y cyfle delfrydol iddi hi weld sut roedd sefydliad cwbl wahanol yn gweithredu, gan roi i Kate y profiad o uwch-arweinyddiaeth a fyddai’n ei helpu yn ei gobeithion hir-dymor yn ei swydd.

Y Canlyniadau

Ar gyfer Theatr na nÓg

  • Mynediad at arbenigedd allweddol Adnoddau Dynol i helpu gyda recriwtio Rheolwr Cyffredinol.
  • Cefnogaeth i aelodau o’r Bwrdd wrth ailstrwythuro polisïau tâl a gweithredu arolwg cyflogau.
  • Arweiniad a chymorth gyda llywodraethiant trwy weithredu awdit sgiliau i helpu gobaith hir-dymor y Bwrdd i ddod yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau mae’n gweithio ynddynt.

Ar gyfer Kate:

  • Cyfle i ddefnyddio ei sgiliau trosglwyddadwy mewn sefydliad newydd a gwahanol.
  • Ennill profiad gwerthfawr o gymryd penderfyniadau ar lefel uchel mewn rôl uwch fel Ymddiriedolwr.
  • Cynyddu ei hyder i rannu ei barn ac i feddwl yn greadigol.
  • Budd diriaethol i Arloesi mewn Ysbytai wrth i Kate ddefnyddio’r hyn a ddysgodd gan Theatr na nÓg yn ei rôl gyfredol, ac amlygu’r budd a ddaw i’r ddwy ochr o’r Bwrdd Gweithwyr Proffesiynol Ifanc.

Y Gymeradwyaeth

Mae Kate wedi ei thrwytho’i hun yn gyflym iawn yn y gwaith o redeg y bwrdd a’r sefydliad. Mae ei synnwyr digrifwch a’i natur hawddgar yn chwa o awyr iach. Mae ei hagwedd bragmataidd wedi cyflwyno dulliau newydd o weithio a datblygu prosesau megis recriwtio a pholisi tâl. Cafodd ei hagwedd broffesiynol a’i hymroddiad i’r dasg effaith bositif ar y modd y mae’r cwmni’n ei gyflwyno’i hun ac yn rheoli ei Adnoddau Dynol.
– Geinor Styles, Theatr na nÓg