Mynd i'r cynnwys
Actor Hijinx, yn perfformio senario chwarae rôl, gan ddal eu pen yn eu dwylo gydag actor arall yn eu hwynebu.

Legal a General Investment Management (LGIM) a Hijinx

Y Sialens

Roedd y busnes am arloesi yn safon newydd o gynwysoldeb o fewn ymarfer AD ac i roi ei reolwyr yr hyder i gyfathrebu â gweithwyr sy’n agored i niwed.

Yr Ymateb

Ariannwyd Hijinx, cwmni theatr sy’n gweithio gydag actorion ag anawsterau niwrolegol, gan LGIM yn y gorffennol i ddarparu peilot i staff Canolfan Cyswllt y busnes, yn eu grymuso i gyfathrebu â galwyr sy’n agored i niwed. Roedd Hijinx yn bwriadu adeiladu ar y prosiect hwn trwy greu, ymarfer a darparu gweithdai sy’n canolbwyntio ar sefyllfaoedd chwarae rôl, yn dod â gweithwyr LGIM i’r brig. Nod yr hyfforddi, a darparwyd gan actorion Hijinx sydd ag anableddau dysgu, oedd hybu cynwysoldeb a chyfathrebu agored gyda gweithwyr sy’n cael problemau iechyd meddwl.

Y Canlyniadau

  • Derbyniodd dros 70 o reolwyr LGIM yr hyfforddiant, a ddarparwyd gan bedwar actor ag anawsterau niwrolegol Hijinx. Nododd LGIM fod rheolwyr wedi cynyddu eu gwybodaeth a sgiliau cyfathrebu i reoli’r amrywiaeth o bobl yn eu timoedd.
  • Mae gan y busnes ddiddordeb mewn ymgorffori’r cwrs yn ei becyn hyfforddi blynyddol i reolwyr.
  • Rhoddodd y prosiect annibyniaeth ariannol i actorion Hijinx a chynigodd iddynt lwyfan i adeiladu ar eu sgiliau. Rhoddodd yr ymgysylltiad â LGIM y cyfle i Hijinx i dreialu’r hyfforddiant arloesol a chynhwysol.

Y Gymeradwyaeth

Roedd yr hyfforddiant gan Hijinx wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni. Roedd yr hyn a ddysgon ni wir yn herio’r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu a rheoli ein timoedd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgorffori hyn er mwyn creu amgylchedd a diwylliant mwy agored a chefnogol ar gyfer ein cyd-weithwyr.

LGIM

Rydyn ni i gyd yn agored i niwed rywbryd yn ein bywydau, a phan mae hyn yn digwydd, mae’n anodd ei adael wrth y drws pan fyddwn ni’n cyrraedd gwaith bob bore. Mae’r cwrs hwn yn gam arall yn ein cenhadaeth i sicrhau gall y gweithle fod yn amgylchedd diogel a chefnogol i bobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol naill ai yn y tymor byr neu hir.

Hijinx