Les Harpes Camac, Telynau Vining a Chanolfan Gerdd William Mathias
Y Sialens
- Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd trwy leihau rhwystrau rhag cael mynediad i gyngherddau proffesiynol.
- Cynyddu diddordeb yn y delyn a chefnogi mynediad at weithgareddau’n ymwneud â’r delyn.
- Creu cysylltiadau newydd gydag athrawon telyn a’r Gwasanaethau Cerdd.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand.
- Cryfhau’r bartneriaeth gyda Camac a Vining.
Yr Ymateb
Cynhaliodd Canolfan Gerdd William Mathias yr Ŵyl Delynau 2022 gyda chymorth gan Camac a Vining.
Roedd y buddsoddiad gan CultureStep wedi galluogi CGWM i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd trwy gynnig tocynnau am ddim i blant lleol a’u teuluoedd.
Y Canlyniadau
Roedd yr Ŵyl Delynau wedi galluogi nifer o delynorion o bob oed ac o bob lefel medrusrwydd i ddod at ei gilydd i ddysgu a pherfformio gyda’i gilydd. Drwy gyfrwng digwyddiadau hwyliog o safon uchel, llwyddwyd i ysbrydoli, annog a meithrin talent telynorion ifanc o bob rhan o Gymru.
Roedd 200 o bobl yn bresennol yn y cyngerdd, gyda 48 ohonynt yn aelodau newydd o’r gynulleidfa, diolch i’r cynllun tocynnau am ddim a ariannwyd drwy CultureStep.
Amlygodd y prosiect bwysigrwydd a gwerth cynnig mwy o gyfleoedd i ddisgyblion sy’n cael gwersi offerynnol / lleisiol ac yn wynebu rhwystrau cymdeithasol-economaidd rhag mynychu cyngherddau proffesiynol.
Roedd y prosiect yn gyfle i ailsefydlu’r bartneriaeth yn dilyn y pandemig Covid. Mae Camac eisoes wedi cytuno i fod yn brif noddwyr 5ed Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2023, a bydd eu cyfraniadau’n gynnydd sylweddol ar y nawdd a gafwyd tuag at Wyliau Cenedlaethol diwethaf CGWM yn 2014 a 2018.
Y Gymeradwyaeth
Credwn yn gryf fod gweld perfformiadau proffesiynol o gerddoriaeth fyw yn rhan bwysig o ddatblygiad cerddorion ifanc, a gall hefyd fod yn sbardun i rai benderfynu dysgu chwarae offeryn yn y lle cyntaf. Mae medru cynnig tocynnau am ddim fel bod modd i deuluoedd fynychu’r Ŵyl Delynau wedi ein galluogi i ysgafnhau’r pwysau ariannol a wynebir gan deuluoedd yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd, gan arwain at gyfleoedd newydd ac amrywiol.
Mae’r bartneriaeth rhwng y cwmni telynau Camac France, Vining Harps a CGWM yn un arbennig sydd wedi datblygu dros gyfnod o ugain mlynedd. Mae cyfraniad ariannol ac ymarferol y cwmnïau telyn wedi bod yn allweddol i lwyddiant y Gwyliau Telynau, ac mae’r tri sefydliad yn cydweithio i hyrwyddo’r delyn yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Aled Rosser, CGWM
Mae Camac a Vining bob amser yn awyddus i gefnogi gwaith cymunedol yr Ŵyl Delynau, ac roedd cael cyfle i fod yn rhan o’r prosiect CultureStep yn ffordd iddynt hwy gefnogi’r gymuned leol a chyrraedd plant nad oeddynt erioed wedi cael profiad o wrando ar gerddoriaeth fyw ar y delyn.
Helen Leitner, Artist Relations Manager, CAMAC & Elen Vining, Director, Telynau Vining