Llyfrgell Gladstone a Jason Matischok, Salisburys
Y Sialens
Y Sefydliad Celfyddydol
Llyfrgell Gladstone
Yr Angen Datblygol
Roedd Annette Lewis, Rheolwraig Datblygu Llyfrgell Gladstone, am weithio gyda chynghorydd i ddatblygu ei sgiliau ariannol er mwyn gallu deall cyllidebau a rhagolygon yn well, ac i adeiladu ei hyder mewn eu cyflwyno i wahanol rhanddeiliaid a chyrff sy’n rhoi grantiau.
Yr Ymgynghorydd
Jason Matischok, Cyfarwyddydd Salisbury & Company
Yr Angen Datblygol
Roedd Jason am roi rhywbeth yn ôl i fudiad sy’n gwasanaethu’r gymuned leol a chael profiad o ffyrdd o weithio o fewn sector gwahanol.
Y Canlyniadau
I Lyfrgell Gladstone:
- Gwell dealltwriaeth am reolaeth ariannol a gwell hyder mewn trafod cyllidebau
- Systemau ariannol gwell yn arwain at gyllido a rhagolygon gwell
- Cais am grant llwyddiannus ar gyfer prosiect tair blynedd mawr, wedi paratoi’r cynllun ariannol gydag arweiniad Jason
I Jason:
- Datblygu sgiliau hyfforddi drwy drosglwyddo gwybodaeth i Annette
- Profiad o weithio o fewn sector wahanol a gwell gwerthfawrogiad o adnoddau
- Boddhad mawr o weld effaith uniongyrchol ei gyngor
- Mwynhad personol o ddysgu am adnodd lleol hanesyddol bwysig
Y Gymeradwyaeth
Mae cymorth Jason wedi bod yn amhrisiadwy yn fy helpu i baratoi cyllidebau realistig ar gyfer digwyddiadau penodol yn ein rhaglen flynyddol a rhoi gwell dealltwriaeth i mi am eu safle o fewn y mudiad. Galla i nawr gweithio’n fwy hyderus gyda thaenlenni, cyllidebau prosiect a chyfrifon blynyddol y mudiad. Dangosodd Jason gymaint o amynedd ac mae ganddo allu i esbonio pethau yn eglur, yn bwyllog ac yn ddibynadwy, yn mynychu ein digwyddiadau a dangos diddordeb gwirioneddol mewn gwaith y Llyfrgell. Mae cymryd rhan yn y cynllun wedi bod o fudd i fy natblygiad proffesiynol fi fy hun a’r mudiad.
Annette Lewis, Llyfrgell Gladstone
Yn Salisburys, rydyn ni wastad yn edrych am ffyrdd i helpu mudiadau lleol, yn enwedig y rheini o fewn y sector elusennol a gwirfoddol. Rydw i wedi darganfod sut mae mudiad hollol wahanol yn gweithredu, o gymharu a chyferbynnu â busnesau a mudiadau eraill, ac ennill gwell dealltwriaeth o sut mae llyfrgell hanesyddol yn gweithio yn ariannol ac yn weithredol. Yn ogystal â hyn, rydw i wedi dysgu am adnodd lleol anhygoel ac wedi datblygu cysylltiadau personol gyda’r llyfrgell ac wedi cyflwyno cydweithwyr i’r adnodd.
Jason Matischok, Cyfarwyddydd Salisbury & Company