Mynd i'r cynnwys

Llyfrgell Gladstone a Jason Matischok, Salisburys

Y Sialens

Y Sefydliad Celfyddydol

Llyfrgell Gladstone

Yr Angen Datblygol

Roedd Annette Lewis, Rheolwraig Datblygu Llyfrgell Gladstone, am weithio gyda chynghorydd i ddatblygu ei sgiliau ariannol er mwyn gallu deall cyllidebau a rhagolygon yn well, ac i adeiladu ei hyder mewn eu cyflwyno i wahanol rhanddeiliaid a chyrff sy’n rhoi grantiau.

Yr Ymgynghorydd

Jason Matischok, Cyfarwyddydd Salisbury & Company

Yr Angen Datblygol

Roedd Jason am roi rhywbeth yn ôl i fudiad sy’n gwasanaethu’r gymuned leol a chael profiad o ffyrdd o weithio o fewn sector gwahanol.

Y Canlyniadau

I Lyfrgell Gladstone:

  • Gwell dealltwriaeth am reolaeth ariannol a gwell hyder mewn trafod cyllidebau
  • Systemau ariannol gwell yn arwain at gyllido a rhagolygon gwell
  • Cais am grant llwyddiannus ar gyfer prosiect tair blynedd mawr, wedi paratoi’r cynllun ariannol gydag arweiniad Jason

I Jason:

  • Datblygu sgiliau hyfforddi drwy drosglwyddo gwybodaeth i Annette
  • Profiad o weithio o fewn sector wahanol a gwell gwerthfawrogiad o adnoddau
  • Boddhad mawr o weld effaith uniongyrchol ei gyngor
  • Mwynhad personol o ddysgu am adnodd lleol hanesyddol bwysig

Y Gymeradwyaeth

Mae cymorth Jason wedi bod yn amhrisiadwy yn fy helpu i baratoi cyllidebau realistig ar gyfer digwyddiadau penodol yn ein rhaglen flynyddol a rhoi gwell dealltwriaeth i mi am eu safle o fewn y mudiad. Galla i nawr gweithio’n fwy hyderus gyda thaenlenni, cyllidebau prosiect a chyfrifon blynyddol y mudiad. Dangosodd Jason gymaint o amynedd ac mae ganddo allu i esbonio pethau yn eglur, yn bwyllog ac yn ddibynadwy, yn mynychu ein digwyddiadau a dangos diddordeb gwirioneddol mewn gwaith y Llyfrgell. Mae cymryd rhan yn y cynllun wedi bod o fudd i fy natblygiad proffesiynol fi fy hun a’r mudiad.

Annette Lewis, Llyfrgell Gladstone

Yn Salisburys, rydyn ni wastad yn edrych am ffyrdd i helpu mudiadau lleol, yn enwedig y rheini o fewn y sector elusennol a gwirfoddol. Rydw i wedi darganfod sut mae mudiad hollol wahanol yn gweithredu, o gymharu a chyferbynnu â busnesau a mudiadau eraill, ac ennill gwell dealltwriaeth o sut mae llyfrgell hanesyddol yn gweithio yn ariannol ac yn weithredol. Yn ogystal â hyn, rydw i wedi dysgu am adnodd lleol anhygoel ac wedi datblygu cysylltiadau personol gyda’r llyfrgell ac wedi cyflwyno cydweithwyr i’r adnodd.

Jason Matischok, Cyfarwyddydd Salisbury & Company