Lyan Packaging Supplies a Theatr Clwyd
Y Sialens
- Cefnogi’r cymunedau mae Lyan Packaging yn gweithredu o’u mewn.
- Cefnogi grwpiau bregus o fewn y gymuned.
- Cynyddu ymgysylltiad y staff.
Yr Ymateb
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, noddodd Lyan Packaging Caffi Celf y Cof, sef sesiynau rhyngweithiol Theatr Clwyd ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a rhai sy’n colli eu cof yn gynnar, a’u gofalwyr. I gynyddu ei gefnogaeth, noddodd y busnes hefyd Raglen Bwrsari Theatr Clwyd am y tro cyntaf yn 2022.
Mae’r bwrsarïau hyn yn darparu gofod diogel lle gall pobl ifanc fregus ymgysylltu â’r celfyddydau, gan wella iechyd a lles, ysbrydoli dulliau newydd o feddwl, adeiladu hunanhyder a hunanymwybyddiaeth, a datgloi potensial. Mae’r bwrsarïau, a ddyfernir ar sail angen, yn cryfhau’r berthynas gyda phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig, a gallant greu llwybrau pwrpasol ar gyfer unigolion sydd wedi ‘graddio’ o’r rhaglenni ymgysylltu creadigol.
Estynnodd CultureStep y bartneriaeth trwy ariannu bwrsari ar gyfer person ifanc ychwanegol.
Y Canlyniadau
Drwy gyfrwng y cymorth a gafwyd gan Lyan Packaging, CultureStep, a phartneriaeth newydd gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, galluogwyd Theatr Clwyd i ddyfarnu 104 o fwrsarïau i bobl ifanc yn 2022. Dyma rai enghreifftiau o’r bobl ifanc sydd ynghlwm â’r cynllun:
Mae Lucy* – sydd ar hyn o bryd yn aros am ddiagnosis o awtistiaeth ac yn cael trafferth i ymdopi â maint a sŵn ei hysgol uwchradd – yn artist da, a byddai’n hoffi mynd i’r coleg i astudio cynllunio set a gwisgoedd. Mae mynychu’r sesiynau wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i Lucy, ac mae’r theatr yn ei helpu gyda chostau cludiant fel bod modd iddi ddod bob wythnos.
Dyw Sophie* ddim wedi bod yn ymgysylltu â’r ysgol yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae mynychu’r grwpiau bob wythnos wedi bod o fudd mawr iddi hi, a rhoi teimlad o bwrpas iddi. Bellach, mae Sophie yn gwirfoddoli yn y theatr bob dydd Sadwrn ac yn awyddus i dreulio cymaint o amser ag sy’n bosibl yno. Mae hi hefyd yn y broses o ysgrifennu blog am ei phrofiad.
Roedd cefnogaeth Lyan Packaging hefyd wedi galluogi parhad Caffi Celf y Cof, cynllun a werthfawrogir yn fawr, gyda 12 sesiwn yn croesawu 240 o fynychwyr yn ystod y flwyddyn.
Cafodd y prosiect effaith bositif ar staff Lyan Packaging, sydd wedi buddsoddi mewn penderfyniadau’n ymwneud â noddi. Roeddynt hefyd yn derbyn diweddariadau cyson, cylchlythyron, a chyfleoedd i ymweld yn bersonol â’r gwaith, yn ogystal â derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau noson y wasg.
Codwyd proffil cyhoeddus y busnes yn lleol trwy gael sylw yn y cyfryngau cymdeithasol a datganiad i’r wasg, a bu hynny o fudd uniongyrchol wrth recriwtio.
Y Gymeradwyaeth
Mae’r prosiect hwn gyda Lyan Packaging, a’r cymorth ychwanegol a gafwyd gan grant CultureStep Arts & Business Cymru, yn golygu ein bod wedi gallu cynyddu’r nifer o bobl ifanc sy’n cael budd o fwrsari. Mae’r bwrsarïau hyn yn gallu arwain at berthynas iach gyda’r celfyddydau, gan wella iechyd a lles a datgloi potensial mewn pobl ifanc fregus.
Janine Dwan, Cydlynydd Datblygu, Theatr Clwyd
Mae hyn yn werth y byd, yr union beth roedd arnom ei angen – a dyna’r sesiwn canu gorau i mi ei gwneud erioed.
Cwrddais â Judy Garland dair gwaith, ac wrth i mi ganu ei chân heddiw llifodd yr holl atgofion yn ôl.
Adborth gan gyfranogion yn sesiynau Caffi Celf y Cof